Mae gweithiwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cwblhau Marathon Llundain i godi arian hanfodol i'r elusen a achubodd fywyd ei thad.

Rhedodd Natasha Preston y llwybr 26.2 milltir eiconig ddydd Sul (Ebrill 23) i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, a ddaeth i achub ei thad pan gafodd ei daro oddi ar ei feic mewn damwain.

Dywedodd y Swyddog Goruchwylio Ymchwiliadau, sy'n hanu o Fiwmares yn Ynys Môn, a bellach yn byw ym Mangor, ei bod am roi rhywbeth yn ôl i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Dywedodd: “Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd fy nhad ei daro oddi ar ei feic. Aeth dros y ffenestr flaen a chafodd ei feic i ddinistrio'n llwyr.

“Rhuthrodd Ambiwlans Awyr Cymru ato, a chafodd ei hedfan i Ysbyty Gwynedd. Roedd yn gleisiau drosto, ond oni bai am ei helmed, gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn llawer gwaeth.

“Nid ydych chi'n meddwl ei fod am ddigwydd i'ch teulu chi, neu y bydd angen y gwasanaeth hwn arnoch chi, yn enwedig pan rydych chi'n gweithio yn y GIG.

“Ond yn amlwg dyw hynny ddim yn wir, ac rwy'n ddiolchgar iawn bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu helpu.

“Roedd rhedeg marathon yn rhywbeth roeddwn i eisiau gwneud, ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n braf rhoi rhywbeth yn ôl i'w had-dalu am eu gwasanaeth.”

Cwblhaodd Natasha Farathon Llundain TCS mewn ychydig dros bum awr a chododd £1,341 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Disgrifiodd y diwrnod fel un anhygoel a dywedodd ei bod hi'n falch iawn o fod wedi croesi'r llinell derfyn.

Dywedodd y fenyw 34 oed: “Rwyf bob amser wedi bod yn un i redeg er mai dim ond 10k rwyf wedi ei redeg o'r blaen. Dim ond cofrestru drwy broses ddewis ar hap wnes i, felly roeddwn i'n lwcus iawn o gael lle.

“Dechreuais hyfforddi yn ôl ym mis Hydref ac alla i ddim credu fy mod i wedi cwblhau Marathon Llundain. Mae'n drueni nad oeddwn i'n gyflymach, ond rwyf wedi cael trafferthion â fy nhroed yn ystod y cyfnod hyfforddi, felly dim ond eisiau croesi'r llinell derfyn yr oeddwn i. Rwy'n teimlo balchder, rhyddhad, poen, blinder a gorfoledd.

“Mae rhai o uchafbwyntiau'r marathon yn cynnwys cael gweld rhai o dirnodau enwog Llundain.  Roedd yn wych cael rhedeg o amgylch  y Cutty Sark a Tower Bridge. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel ac roedd y dorf yn wych. Cefais lawer o gefnogaeth a losin. Mae'n debyg mai un o'r isafbwyntiau oedd cael fy mhasio gan ddyn sinsir!”

Dywedodd Natasha, a ymunodd â'r Ymddiriedolaeth fel swyddog trin galwadau 999 bum mlynedd yn ôl, fod y gefnogaeth a gafodd ar gyfer Marathon Llundain wedi bod yn anhygoel. Roedd ei thîm gwaith yn gefnogol iawn a bu ei thad yn gwmni iddi ar sesiynau hyfforddiant rhedeg ar ei feic. Teithiodd ei theulu cyfan o Gymru i'r brifddinas i'w chefnogi ar y penwythnos.

Dywedodd: “Mae fy nhad yn falch iawn fy mod i'n codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae e'n bersonol yn gwybod pa mor werthfawr yw'r Elusen. Roedd yn wych cael fy nhad a fy nheulu yn fy nghefnogi. Roedd gwybod fy mod i'n helpu Elusen sydd o fudd i bobl Cymru yn hytrach nag Elusen genedlaethol fwy yn fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy balch.”

Hoffai Natasha ddiolch i bawb a fu mor garedig a rhoi rhodd iddi.

Dywedodd: “Rwyf mor falch â'r swm o arian a godais. Fy nharged oedd £260 (£10 am bob milltir) ac yn sicr roedd yn fwy na hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am eu haelioni.” 

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Alwyn Jones, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Dylai Natasha fod yn falch iawn o'i hun am gwblhau Marathon Llundain a chodi dros £1,341 i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Mae'n gyflawniad anhygoel ac mae ei holl waith hyfforddi a'i hymrwymiad wedi talu ar ei ganfed. Mae Natasha a'i theulu yn gwybod yn bersonol pa mor werthfawr yw'r Elusen gan y bu angen yr Elusen ar ei thad ychydig flynyddoedd yn ôl yn dilyn damwain beic.

“Rydym yn falch o glywed ei fod yn ôl ar ei feic ac wedi gallu cefnogi Natasha yn ystod Marathon Llundain.

“Diolch o galon iddi am godi swm anhygoel.”

 Gallwch noddi Natasha o hyd drwy fynd i'w thudalen Just Giving yma.