Mae grŵp cymunedol lleol yn Abersoch wedi codi £20,000 i Ambiwlans Awyr Cymru dros naw mlynedd ers iddo gael ei ffurfio.

Mae'r 35 o aelodau sy'n rhan o Abersoch 60 yn rhoi £60 yn wirfoddol bob blwyddyn i'r Elusen sy'n achub bywydau. Cyflwynwyd y rhodd ddiweddaraf o £2,000 i un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Louise Courtnage, yn nigwyddiad cymdeithasol blynyddol y grŵp.

Cafodd Abersoch 60, a sefydlwyd gan Brian Holland a Jane Sproston, yr enw hwn oherwydd yn wreiddiol roedd yn rhaid i aelodau fod dros 60 oed i ymuno â'r grŵp poblogaidd.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Gan fyfyrio ar y rhesymau pam y byddai'r elusen sy'n achub bywydau yn cael budd o roddion y grŵp, dywedodd Andrea Holland o Abersoch 60: “Roedd grŵp o ffrindiau yn cael cinio yn Abersoch, ac roeddem yn trafod pa mor hanfodol yw Ambiwlans Awyr Cymru i'n cymuned leol, gan ein bod mor bell o'r ysbyty agosaf. Roeddem i gyd yn gwybod am nifer o bobl yn yr ardal leol yr oedd eu bywydau wedi cael eu hachub gan ymateb a gweithredoedd cyflym Ambiwlans Awyr Cymru i'w cludo i'r ysbyty. Roeddem i gyd yn cytuno yr hoffem roi arian mewn rhyw ffordd.”

“Mae llythyr yn mynd at bob aelod ar ddechrau'r haf yn gofyn a ydynt am roi arian o hyd, ond nid oes unrhyw bwysau, ac mae'n hollol wirfoddol. Y flwyddyn gyntaf honno gwnaethom gyflwyno siec am £2,250 a dros y naw mlynedd ers hynny rydym wedi codi cyfanswm o £20,000. Hoffwn ddiolch i'r holl gyn-aelodau a'r aelodau presennol am eu cefnogaeth a'u haelioni.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Louise Courtnage: “Fel bob amser, diolch yn fawr iawn i holl aelodau Abersoch 60 sy'n rhoi arian yn wirfoddol i'n Helusen sy'n achub bywydau. Bob blwyddyn rwy'n cael gwahoddiad i ddigwyddiad cymdeithasol hyfryd lle maent yn cyflwyno siec i'n Helusen. Mae'n anhygoel meddwl bod yr aelodau hyn wedi codi £20,000 i Ambiwlans Awyr Cymru dros naw mlynedd. Mae eu cefnogaeth barhaus i'r Elusen yn ein galluogi i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf – 24/7.”

Mae Abersoch 60, sy'n croesawu dynion a menywod, bob amser yn chwilio am gefnogwyr newydd. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp, gallwch gysylltu ag Andrea Holland drwy e-bostio [email protected].