Mae twrnamaint golff blynyddol y South Wales Seniors Classic (SWSC) wedi codi £8,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r twrnamaint golff wedi bod yn codi arian i'r elusen sy'n achub bywydau ers 2004, ac mae wedi codi'r swm anhygoel o £104,440 hyd yn hyn.

Cynhelir y gystadleuaeth ledled De Cymru, a'r prif enillwyr eleni oedd Clwb Golff Caerfyrddin, a enillodd Gwpan SWSC, a Chlwb Golff Castell-nedd, a enillodd Ddysgl SWSC 

Wrth edrych yn ôl ar eu hymdrech arbennig iawn yn codi cymaint o arian i Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Howel Craven, o'r South Wales Seniors Classic: “Y teimlad ymhlith pob un o'r golffwyr yw bod y South Wales Seniors Classic wedi cyflawni rhywbeth anhygoel dros y deunaw mlynedd diwethaf.

“Mae 64 o dimau'n dechrau bob tymor, gyda chystadleuaeth bwrw allan, sy'n gorffen gyda dau dîm yn y rowndiau terfynol yn cystadlu am y cwpan a'r ddysgl. Mae hynny yn golygu 12 o chwaraewyr yn y rownd derfynol, sy'n dipyn o gamp ar eu rhan nhw o feddwl bod dros 700 o olffwyr wedi cofrestru ar ddechrau'r tymor.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Rydym wrth ein bodd, ac yn teimlo ei bod yn anrhydedd, i dderbyn rhodd anhygoel arall gan y South Wales Seniors Classic. Mae'r cymorth parhaus y maen nhw'n ei roi i'n helusen sy'n achub bywydau yn wych, ac maent wedi codi'r swm rhyfeddol o £104,440 ers 2004.  

“Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o drefnu digwyddiad llwyddiannus arall, yn ogystal â'r holl glybiau sydd wedi gadael i ni ddefnyddio eu meysydd golff yn ystod y digwyddiad. Hoffem hefyd ddiolch i'r holl noddwyr.  Mae pob rhodd yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr fel y gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

I gael rhagor o wybodaeth am y South Wales Seniors Classic ewch i wefan y twrnamaint yn www.swsc.co.uk