Gwahoddir seiclwyr i gofrestru ar gyfer digwyddiad ‘Bike It 100’ Cilgeti yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd. 

Mae digwyddiad codi arian ‘Bike It 100’ Cilgeti er budd dwy elusen bwysig – Ambiwlans Awyr Cymru a Paul Sartori Hospice at Home – a bydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 18 Gorffennaf.

Gall cyfranogwyr ddewis un o dri llwybr heriol ond golygfaol gwahanol – sef 100, 75 a 50 milltir, gan ddringo tua 7000, 5000 a 3500 o droedfeddi, yn y drefn honno, drwy gydol y digwyddiad heriol. Bydd y seiclwyr sy'n ymgymryd â'r llwybr 100 milltir yn mwynhau siroedd Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion.

Wrth sôn am y rheswm pam y mae'r digwyddiad yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd y trefnydd Norman Mason: “Dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru fel un o ddwy elusen a fydd yn elwa ar ddigwyddiad eleni gan fy mod wedi edmygu ers tro y rhan hanfodol y mae’r elusen yn ei chwarae ym mywyd pawb yn y wlad hon, p'un a ydynt wrth eu gwaith, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden neu'n teithio.

“Rwyf hefyd wedi gweld Ambiwlans Awyr Cymru ar waith drosof fi fy hun, oherwydd yn 2015, clywais alwad am help gan gyn-gydweithiwr dros berth fy ngardd ac, ar ôl rhuthro i'w helpu, gwelais ei fod wedi dal ei goes yng nghledrau cloddiwr bach yn y depo lle roedd yn gweithio. Ar ôl ffonio'r gwasanaethau brys, aeth cwpwl o oriau heibio cyn i'w goes gael ei ryddhau, a chafodd ei gludo i Ysbyty Treforys gan Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r amser gwerthfawr a arbedwyd wrth ei gludo i'r ysbyty, llwyddodd i wella'n llwyr.”

Y gobaith yw y bydd Bike It 100 Cilgeli yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae'r trefnwyr yn gobeithio codi tua £3,000 i'w rhannu rhwng y ddwy elusen.

Bydd y seiclwyr yn dechrau ac yn gorffen yn y maes parcio y tu ôl i Ganolfan Gymunedol Cilgeti, lle mae toiledau a lleoedd parcio am ddim. Bydd cymorth wrth gefn gan ôl-gerbydau seiclo a bysiau mini ar gael ar hyd y llwybrau rhag ofn y bydd angen i unrhyw seiclwr roi'r gorau i'r digwyddiad yn gynnar.

Ychwanegodd Norman: “Y gobaith yw y gallwn gael gorsafoedd bwyd ar bob un o'r llwybrau, a lluniaeth wrth y llinell derfyn. Fodd bynnag, os na fydd modd gwneud hynny oherwydd canllawiau'r llywodraeth, byddwn yn rhoi rhestr o safleoedd lluniaeth a chaffis i bob seiclwr. Byddwn yn dilyn canllawiau diweddaraf COVID-19 a Beicio Cymru yn ystod y digwyddiad hwn, a bydd diogelwch pob cyfranogwr o'r pwys mwyaf.”

Gall hyd at 200 o seiclwyr gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, a gynhelir ar y cyd â British Cycling. Mae lleoedd yn costio £35 a bydd pawb sy'n gorffen yn cael medal coffa. 

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin : “Bydd digwyddiad ‘Bike It’ Cilgeti yn her sylweddol, ond her y bydd y cyfranogwyr yn ei mwynhau, rwy'n siŵr. Diolch o galon i Norman a phawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Mae ein gwasanaeth sy'n achub bywydau bellach yn gweithredu 24/7, felly mae rhoddion yn bwysicach nag erioed, gan fod angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2021, a pha ffordd well o ddathlu'r garreg filltir hon a chefnogi ein helusen na chofrestru ar gyfer Bike It 100 Cilgeti.”

Gallwch gofrestru drwy wefan British Cycling, britishcycling.org.uk, neu, fel arall, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar dudalen Facebook Kilgetty Bike It 100.