Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn her arbennig i ddathlu 20 mlynedd ers i'r Elusen gael ei sefydlu fel gwasanaeth sy'n achub bywydau. 

Bydd yr Elusen yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw #Fy20.   

Mae #Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan drwy osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y gallant eu cwblhau yn ystod mis Mawrth. Gall enghreifftiau gynnwys cerdded 20 milltir, pobi 20 o gacennau, dysgu 20 o ymadroddion Cymraeg newydd neu gwblhau 20 munud o arddio bob dydd.  

£10 fydd y gost i gymryd rhan yn yr her a bydd cyfranogwyr yn cael yr opsiwn i gasglu arian nawdd drwy Just Giving www.justgiving.com/campaign/Fy20-My20. Mae'n rhaid ei chwblhau rhwng dydd Llun 1 Mawrth a dydd Mercher 31 Mawrth, a bydd pob cyfranogwr yn cael tystysgrif #FY20 am ei ymdrechion. Y wobr fwyaf i'r rhai fydd yn cymryd rhan yw gwybod y bydd yr arian a godir yn helpu pobl ledled Cymru pan fo'r angen fwyaf arnynt. 

Mae'n bwysig dilyn canllawiau'r Llywodraeth wrth ymgymryd ag unrhyw her. 

Daw her #FY20 dri mis ar ôl i'r Elusen lwyddo i wireddu ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cymryd rhan yn #Fy20 yn ffordd wych o ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu'r Elusen wrth godi arian ar gyfer ein gwasanaeth 24/7 sy'n achub bywydau. Y peth gwych am #Fy20 yw'r ffaith mai chi sy'n rheoli'r her. Gallwch ddewis rhywbeth a fydd yn eich ysgogi, neu her rydych wedi bod yn awyddus i'w chyflawni ers tro ond heb gael yr amser tan nawr. Gall plant gymryd rhan yn yr hwyl gyda chi, hefyd.  

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond gall canolbwyntio ar her newydd, neu ddysgu sgìl newydd, ein helpu i gadw'n llawn cymhelliant wrth i ni symud tuag at gyfnod mwy cadarnhaol yn y dyfodol. 

“Un peth rydym wedi ei ddysgu yn ystod y cyfnod clo yw pa mor greadigol y mae ein cefnogwyr. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa heriau amrywiol ac arloesol y mae pobl o bob oedran yn eu gwneud drwy gydol mis Mawrth.” 

  I gael rhagor o wybodaeth, syniadau ar gyfer heriau ac i gofrestru, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.