Mae dros 300 o bobl ledled Cymru wedi codi mwy na £25,000 drwy gymryd rhan mewn her arbennig sy'n dathlu 20 mlynedd ers sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru.

Lansiodd yr elusen her Fy20 ym mis Mawrth er mwyn nodi'r garreg filltir hon.

Cafodd cyfranogwyr y cyfle i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain a oedd yn ymwneud â'r rhif ‘20’ i'w gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Aeth pobl o bob oedran ati i godi arian, y ieuengaf ohonynt ond yn chwe mis oed. Gwnaethant ddewis amrywiaeth o wahanol weithgareddau codi arian gan gynnwys gweithgareddau glanhau traeth, gwau hetiau i fabanod a gaiff eu geni'n gynnar, celf a chrefft, darllen 20 o lyfrau mewn 20 diwrnod, cerdded neu redeg 20 milltir a phobi 20 o gacennau.

Llwyddodd babanod a phlant o Feithrinfa Plant Parciau yng Nghaernarfon i godi'r swm anhygoel o £3,160 drwy gymryd rhan yn her Fy20 yr Elusen.

Aeth y 90 o blantos, sydd rhwng chwe mis a thair a hanner, ati i gwblhau amrywiaeth o wahanol weithgareddau a thasgau fel rhan o'u hymgyrch codi arian, gan gynnwys taflu 20 o beli bob dydd a'u rhoi mewn bwced, cystadleuaeth tynnu llun, a dod o hyd i 20 o wyau Pasg wedi'u cuddio o amgylch y fferm, yn ogystal â gwneud gwahanol fathau o ymarferion addysgol dan do yn ystod y mis. Aeth y plant hynaf ati hefyd i gerdded milltir y dydd am ugain diwrnod.

Sheila Jones a Natalie Evans, dau aelod o staff y feithrinfa sydd wedi helpu'r feithrinfa i godi dros £7,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf, oedd y tu ôl i'r syniad o gymryd rhan yn Fy20.

Mae Sheila Jones wrth ei bodd i weld ymdrechion y plant yn ystod y mis yn cael eu cydnabod. Dywedodd: “Mae'r staff yn dra diolchgar ac yn falch iawn bod y plant wedi codi mwy na £3,000 i'r elusen sy'n achub bywydau. Rydym yn synnu at y gefnogaeth barhaus a gawsom gan y plant a'r rhieni yn ystod ein hymgyrch codi arian Fy20.”

Lansiwyd her #FY20 dri mis ar ôl i'r Elusen lwyddo i wireddu ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr codi arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn Fy20. Crëwyd yr ymgyrch codi arian arbennig er mwyn nodi 20 mlynedd ers ein sefydlu, ac aeth y cyhoedd ati i'n cefnogi drwy godi'r swm syfrdanol o £25,539.

“Rhoddodd yr ymgyrch y cyfle i bobl o bob oedran fod yn greadigol a mwynhau gweithgaredd, her neu dasg o'u dewis eu hunain.  Y bobl oedd yn codi'r arian fu’n gyfrifol am reoli eu gweithgaredd eu hunain y tro hwn, ac roedd hynny’n llwyddiannus iawn, yn y diwedd Roedd yn hyfryd gweld plant yn ogystal â theidiau a neiniau yn gwneud pethau creadigol er mwyn codi arian y mae angen dirfawr amdano i'n helusen sy'n achub bywydau. Diolch i bawb a gymerodd ran yn ymgyrch codi arian Fy20, neu a roddodd arian iddo.”

Cafodd pawb a gymerodd ran yn yr her dystysgrif Fy20.