Fy20 Mae Mawrth y 1af yn ddiwrnod arbennig I ni. Rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 20 oed. I ddathlu'r garreg filltir hon, rydym wedi creu digwyddiad codi arian arbennig, sef Fy20. Ar gyfer Fy20, gallwch ddewis unrhyw her, tasg neu weithgaredd y mynnoch yn ymwneud â'r rhif 20 a'i gwblhau yn ystod mis Mawrth. P'un a ydych am gerdded 20 milltir yn ystod y mis, dysgu 20 o ymadroddion Cymraeg newydd neu gwblhau 20 munud o arddio bob dydd – mae rhywbeth at ddant pawb. Cofrestrwch heddiw Sut y gallaf gymryd rhan? Gall Fy20 fod beth bynnag y mynnoch (cofiwch ddilyn canllawiau'r Llywodraeth). Ewch i'n tudalen gofrestru i gymryd rhan, penderfynu beth fydd eich gweithgaredd neu her a'i gwblhau yn ystod mis Mawrth. Pobi 20 o gacennau. Cerdded 20 milltir yn ystod y mis Mawrth. Creu cwilt gyda 20 o sgwariau. Darllen 20 llyfr. Ymarfer corff am 20 diwrnod yn ystod mis Mawrth. Gwylio 20 o ffilmiau newydd. Gwneud 20 o neidiau seren bob dydd. Cwblhau 20 awr o wirfoddoli. Mwynhau 20 munud o gelf bob dydd. Cwblhau 20 o groeseiriau. Garddio am 20 munud y dydd. Dysgu 20 o ystumiau ioga newydd. Crosio/gwau 20 o eitemau gwahanol. Rhoi cynnig ar 20 o steiliau gwallt gwahanol. Troi crempog 20 o weithiau. Rhedeg am 20 munud y dydd. 20 diwrnod o wisgoedd ffansi. Cwblhau 20 o gymwynasau. Cwblhau cymaint o 'keepy ups' â phosibl mewn 20 eiliad. Dysgu 20 gair neu ymadrodd newydd mewn iaith arall. Pam y dylwn i gymryd rhan? Mae cymryd rhan yn Fy20 yn ffordd wych o ddathlu ein pen-blwydd yn 20, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a hynny wrth godi arian ar gyfer ein gwasanaeth 24/7 sy'n achub bywydau. Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £8 miliwn a bydd yr holl elw a wnaed o'ch gweithgaredd Fy20 yn mynd tuag at gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr. Cofrestrwch heddiw