Siarad â Nyrs Cyswllt Cleifion newydd

Os hoffech siarad â Nyrs Cyswllt Cleifion, llenwch y ffurflen isod, ffoniwch neu anfonwch e-bost drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Llinell Gleifion: 0300 300 0067
[email protected]

Bydd ein Tîm Gofal Critigol yn cofnodi gwybodaeth gyfrinachol am gleifion ar ein gweinydd diogel a chaiff data clinigol eu rheoleiddio’n ofalus yn unol â phrosesau llywodraethu GIG Cymru. Mae gan bob aelod o staff ddyletswydd gyfreithiol i gadw cofnodion cleifion yn gyfrinachol ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith a diogelu’r data hyn. Gallwn rannu gwybodaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ond dim ond at ddibenion gofal clinigol y byddwn yn gwneud hyn ac ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth i drydydd partïon heb eich caniatâd.