Fel elusen mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r unigolion yr ydym yn gweithio gyda rhag dioddef ymddygiad a chamdriniaeth amhroffesiynol. Felly, mae pob rôl sy’n cael ei thalu a heb ei thalu wedi’i eithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 ac mae’n rhaid i’r holl gollfarnau troseddol sydd wedi darfod ac sydd heb ddarfod gael eu nodi. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir yn cael ei defnyddio’n gwbl gyfrinachol a dim ond wrth ystyried eich addasrwydd ar gyfer y rôl wirfoddoli y caiff ei rhoi. Nid yw cofnod troseddol yn atal pobl rhag wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru.
Yr wyf yn cadarnhau bod y wybodaeth wedi’u cynnwys yn y ffurflen yma yn gwir a chywir. Yr wyf yn deall, os canfyddir wedyn bod unrhyw ddatganiad yn ffug neu’n gamarweiniol, efallai y gofynnir i mi roi’r gorau i wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru. Rwy’n fodlon cadw at y rheolau a chynnal gwerthoedd Ambiwlans Awyr Cymru. Rwy’n derbyn y gall fy nhasgau gyda WAA gynnwys materion a sefyllfaoedd o natur sensitif a chytunaf i gadw cyfrinachedd bob amser. Cytunaf y gellir cadw fy nghofnodion sylfaenol ar gyfrifiadur / cronfa ddata o dan ddarpariaethau Rheoliadau Diogelu Dyddiad Cyffredinol 2018.