Mae tri dyn o Sir Benfro wedi codi dros £3,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy yrru 2,000 o filltiroedd i elusen mewn dim ond 36 awr!

Cychwynnodd Owen Hughes, 30 oed, Chris Williams, 34 oed a Dean Murphy, 28 oed eu taith mewn car stad Skoda Fabia o Abergwaun i John O'Groats, ac yna i Lands' End a nôl. Roeddent wedi gobeithio cwblhau'r her, a gafodd ei henwi'n Daith Yrru Elusennol O.C.D ar ôl blaenlythrennau eu henwau, o fewn 48 awr.

Dywedodd Owen, sy'n yrrwr lori: “Aeth popeth yn dda iawn, roedd hi'n well na'r disgwyl. Cawsom daith dda gyda dim ond tua 45 munud o oedi. Gwnaethom gymryd tro i yrru a chadw'r car i symud drwy'r amser a gorffen yn llawer cyflymach na'r disgwyl.”

Gwnaeth y dynion o Abergwaun ragori ar eu targed gwreiddiol o £1,000 drwy godi £3,050 i'r elusen sy'n achub bywydau.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Roedd y tri wrth eu bodd â'r gefnogaeth a gawsant gan gwmnïau lleol a'r cyhoedd. Cyn y daith yrru, cawsant ychydig o broblemau gyda'u car, a helpodd eu noddwyr i ddod o hyd i rannau i wneud yn siŵr bod y car yn barod ar gyfer yr her.

Dywedodd Owen: “Mae'n anhygoel. Ein targed oedd codi £1,000 a gwnaethom ragori ar y swm hwnnw. Mae'r tri ohonom wrth ein bodd â faint rydym wedi'i godi. Rydym wedi cael cefnogaeth dda iawn gan gwmnïau lleol, yn enwedig yn Aberteifi, a chawsom lawer o roddion drwy ein tudalen Just Giving.”

Yn ystod y daith elusennol, cafodd y dynion hefyd rodd ar-lein gan bobl nad oeddent yn eu hadnabod a oedd wedi mynd heibio iddynt sawl gwaith yn ystod yr her.

Ers cwblhau eu her mae'r dynion wedi gwerthu'r car a rhoi'r £600 i'r ymgyrch codi arian hefyd.

Gan fyfyrio ar y rhesymau pam roeddent am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ychwanegodd Owen: “Rydym i gyd yn feicwyr ac am fod COVID-19 yn effeithio ar ddigwyddiadau codi arian, roeddem am roi rhywbeth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru. Gobeithio ei fod yn rhywbeth na fydd byth angen i ni ei ddefnyddio, ond mae yno os bydd ei angen arnom. Fel elusen, nid ydynt yn cael arian gan y llywodraeth. Rydym wedi codi'r arian er mwyn cadw'r elusen hanfodol sy'n achub bywydau i fynd, oherwydd gall fod ei angen ar unrhyw un unrhyw bryd!”

Dywedodd Katie Macro, Cydlynydd Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Diolch yn fawr iawn i Owen, Carl a Dean am godi dros £3,000 i'n helusen sy'n achub bywydau. Eu bwriad oedd cwblhau'r daith yrru hir mewn dim ond 48 awr, ond gwnaethant ragori ar y targed hwnnw drwy ddychwelyd adref o fewn 36 awr. Mae'r swm o arian maent wedi'i godi wedi adlewyrchu eu hymroddiad i godi arian i elusen yr oeddent am ei chefnogi.

“Diolch i bawb sydd wedi'u cefnogi yn ystod Taith Yrru O.C.D a rhoi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae pob rhoddmor bwysig i ni. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.