Er mwyn darparu gwasanaeth 24/7, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Gyda'ch cymorth, gallwn gyflawni hyn. Mae llawer o ffyrdd y gallwch ein helpu. Mae pob punt a phob awr sbâr yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i'r hyn a wnawn. Dyma rai ffyrdd y gallwch gyfrannu:

  • Ymuno â'n Loteri Achub Bywyd
  • Codi arian
  • Rhoi rhodd
  • Rhoi eich eitemau ail-law i'n siopau elusen
  • Ymweld â'n siopau ledled Cymru (a'n caffi, sef Caffi HEMS ym Maes Awyr Caernarfon)
  • Gwirfoddoli
  • Gadael rhodd yn eich Ewyllys

Ewch i https://www.ambiwlansawyrcymru.com/ neu ffoniwch 0300 0152 999 am fwy o wybodaeth.