Mae hwn yn gwestiwn hollbwysig a gellir ond ei ateb o ddeall hanfodion gweithrediad ambiwlans awyr yn y lle cyntaf.

 Gan mai dim ond pedwar hofrennydd (a Cherbydau Ymateb Cyflym cyflenwol), a phedwar criw meddygol medrus iawn sydd gennym, rydym yn adnodd prin. Caiff ystod gymhleth o ffactorau eu hystyried ar gyfer pob defnydd unigol o'n fflyd ledled Cymru. Bydd dyranwyr a chlinigwyr ymroddedig yn ein Hwb Gofal Critigol yn asesu pob digwyddiad fesul achos er mwyn darparu'r ymateb mwyaf priodol gan ddefnyddio ein hadnoddau, ar y cyd â thimau ymateb brys eraill rydym yn gweithio'n agos â nhw.

Felly, er bod pob criw ambiwlans awyr mewn ardal benodol, gallant ymateb i bob rhan o Gymru. Nid oes yr un o'n criwiau wedi'u cyfyngu i ardal benodol o Gymru, maent yn symud o gwmpas y wlad i fynd i alwadau yn ôl y gofyn. Mae a wnelo ag anfon y criw mwyaf priodol sydd ar gael, ni waeth ble maen nhw. Er enghraifft, petai digwyddiad sy'n fygythiad i fywyd neu rannau o'r corff yn digwydd mewn ardal wledig anghysbell yng Nghanolbarth Cymru, gellir mynd yno o unrhyw un o'n gorsafoedd presennol (Y Trallwng, Dafen, Caerdydd neu Gaernarfon).

Pam mae hyn yn bwysig? Mae pobl wedi mynegi pryderon am y cynnydd mewn amserau teithio oherwydd ad-drefnu arfaethedig y gwasanaeth. Y gwirionedd yw bod hyn eisoes yn digwydd yn eithaf rheolaidd, fel rhan o'n gwasanaeth a heb unrhyw effaith niweidiol i'r cleifion a'u canlyniad.

Wrth gwrs, gall hofrenyddion deithio pellteroedd mawr yn gyflym ac yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gall rhai gofyn sut y bydd hyn yn bosibl mewn cerbyd ffordd pan fydd cynnydd rhesymegol mewn amser teithio yn erbyn rhwydwaith ffyrdd sydd eisoes yn anodd.

Mewn gwirionedd, ychydig iawn o alwadau y mae Ambiwlans Awyr Cymru/EMRTS yn mynd iddynt mewn RRV o'u gorsafoedd yn y Trallwng a Chaernarfon fel y mae ar hyn o bryd. Caiff y mwyafrif helaeth o'u gwaith ei wneud drwy'r awyr. Pam? Oherwydd nid yw'r lleoliadau hyn yn addas iawn i unrhyw fath o ymateb ar y ffordd. Maen nhw'n lleoliadau anghysbell heb lawer o fynediad i isadeiledd ffyrdd addas, sy'n golygu bod cryn dipyn yn llai ar gael. Mae hyn yn ychwanegol at ffactorau amgylcheddol, yn enwedig yn y Trallwng gyda'r orsaf awyr a'r rhwydwaith ffyrdd o'i hamgylch yn destun llifogydd mynych.

Er mwyn rhoi'r uchod mewn cyd-destun, dros y 12 mis diwethaf, aeth ein criwiau naill ai yn y gogledd neu yn y de at 38% o'r argyfyngau yng Nghanolbarth Cymru. Yn ogystal, roedd 74% o'r argyfyngau yr aeth ein criw o'r Trallwng atynt naill ai yng ngogledd neu dde Cymru. Mae hyn yn dangos yn glir bod ein hadnoddau yn asedau cenedlaethol sy'n teithio ledled y wlad i gynnig ein gofal achub bywydau uwch.

Mae'n gwbwl ddealladwy cael cwestiynau am amserau ymateb, ond gobeithio y bydd hyn yn cynnig tawelwch meddwl nad yw pellteroedd yn broblem i ofal cleifion gan ein bod eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell, fel Canolbarth Cymru, yn rheolaidd, gydag adnoddau o Dde a Gogledd Cymru.