Hanner Marathon Abertawe JCP 2021 Mynnwch le am ddim nawr yn y digwyddiad rhedeg hwn sy'n berffaith at yr Haf. Mae enw da gan Hanner Marathon Abertawe am fod yn gwrs cyflym a gwastad sy'n cwmpasu holl harddwch Bae Abertawe. Bydd y golygfeydd godidog yn eich helpu i gwblhau'r cwrs 13.1 milltir o hyd. Cynhelir Hanner Marathon Abertawe JCP, SYDD WEDI ENNILL SAWL GWOBR, unwaith eto yn 2021. Yn dilyn pleidlais hwn oedd hanner marathon gorau'r DU (2017 a 2018) a hanner marathon mwyaf a gorau Cymru. Dewch i #RhedegAbertawe. Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £200 a byddwch yn cael: Mynediad am ddim i'r digwyddiad Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30 Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg Hanner Marathon Abertawe, sef: crys-t y digwyddiad medal bwrpasol dŵr jelïau egni camwyr ffyrdd caeedig Am ragor o wybodaeth am Hanner Marathon Abertawe, cliciwch yma. Booking for this event has now closed. Manage Cookie Preferences