25/08/2020

Mae mam ddewr, a gollodd un o'i meibion mewn tân ym mis Ionawr, yn bwriadu nenblymio i ddiolch i’r meddygon a helpodd i achub bywyd ei mab arall.

Mae Erin Harvey yn dod o Bontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Bu farw ei mab Zac, 3 oed, pan aeth y garafán roedd yn aros ynddi gyda'i frawd, Harley a'i dad, Shaun ar dân.

Gwnaeth Harley, 5 oed, oroesi'r ddamwain, ond roedd mewn cyflwr difrifol gyda llosgiadau i 40 y cant o'i gorff. Mae ei welliant anhygoel wedi ysgogi ei fam, Erin, i neidio er mwyn dweud diolch a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Yr Elusen, sy'n rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru i Blant, a wnaeth drosglwyddo Harley bach o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth i Ysbyty Plant Bryste.

Dywedodd ei fam ddewr, Erin, sydd hefyd yn fam i Alex, 10 oed: “Mae Harley yn ffynnu heddiw, er gwaethaf pob disgwyl. Dwi am roi rhywbeth yn ôl. Felly dwi'n neidio! Allwn ni ddim diolch i’r holl wasanaethau a thimau gwych a fu’n rhan o’r gofal a gafodd Harley. Mae'n gwneud yn dda iawn.

“Felly, rydym yn dechrau gydag Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n gwneud gwaith anhygoel. Byddem ni'n ddiolchgar iawn am unrhyw roddion. Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus.”

Bydd y profiad torcalonnus o golli ei phlentyn ieuengaf, Zac, yn aros gyda'r teulu am byth, ac maent yn gweld ei eisiau bob dydd.

Wrth sôn am neidio o awyren, dywedodd Erin: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, yn enwedig gan nad wyf wedi bod mewn awyren erioed o'r blaen. Mae Alex yn nerfus amdanaf yn nenblymio, ond mae Harley yn llawn cyffro.”

Bydd y bechgyn balch yn gwylio eu mam yn nenblymio ar 30 Awst yn Hwlffordd. Mae'r teulu eisoes wedi codi £365 o'u targed o £500 ar gyfer yr elusen hofrenyddion.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r teulu drwy noddi Erin ar ei thudalen Just Giving, sef Erin's jump for Harley's journey