Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth, a wnaeth ei galluogi i fynd i 3,544 o argyfyngau a allai beryglu bywydau ac achosi anafiadau difrifol yn 2021.

Ers i'r Elusen gael ei sefydlu yn 2001, mae wedi ymateb i fwy na 41,000 o alwadau i gyd.

Derbyniodd yr Elusen, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed, 3,544 o alwadau yn ystod 2021. Anfonwyd hofrennydd i ymateb i 1870 o'r galwadau a chafodd 1674 ymateb gan un o Gerbydau Ymateb Cyflym yr elusen. Roedd 1540 o'r digwyddiadau yn ymwneud â phroblemau meddygol ac roedd y 2004 arall yn gysylltiedig â thrawma. Mae gwaith dadansoddi pellach yn datgelu bod 372 o'r cleifion a gafodd eu trin yn 17 oed neu'n iau.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig gwasanaeth trosglwyddo rhwng ysbytai pan fo angen gofal arbenigol brys ar glaf mewn cyfleuster gofal iechyd gwahanol ac nad oes amser i'w golli. Caiff y gwasanaeth hwn ei gefnogi gan ein Hymarferwyr Trosglwyddo dynodedig.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei Cherbydau Ymateb Cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r gefnogaeth mae ein Helusen yn ei chael yn anhygoel. O bawb sy'n codi arian i ni, i'n byddin o wirfoddolwyr – maen nhw i gyd yn achub bywydau. Hoffwn ddiolch hefyd i'n Hymddiriedolwyr, fy nghydweithwyr yn yr Elusen, partneriaid, staff meddygol a pheilotiaid am eu hangerdd, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad i bobl ein gwlad, a'n pwyslais ar wasanaethu Cymru ac achub bywydau. Y llynedd, roeddem wedi gallu ymateb i 3,544 o argyfyngau a allai beryglu bywydau ac achosi anafiadau difrifol ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb y bobl rwyf wedi eu crybwyll. Diolch o waelod calon.”

Er mai pobl Cymru sy'n cefnogi'r gwaith o redeg yr hofrenyddion drwy roddion elusennol i Ambiwlans Awyr Cymru, darperir y galluogrwydd meddygol ar yr hofrenyddion drwy bartneriaeth Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus unigryw rhwng yr Elusen, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Arweiniodd y bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2015, at greu'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Dywedodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS Cymru: “Roedd y llynedd yn heriol i bawb wrth i COVID-19 barhau i effeithio ar ein gwasanaeth a'n pobl. Serch hynny, er gwaethaf yr heriau hynny, roeddem wedi gallu parhau â'n gwaith o achub bywydau – fel rydym wedi'i wneud drwy gydol y pandemig. Y rheswm am hyn yw'r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth a phobl Cymru, ac ni allaf ddiolch digon i chi.”

Un o'r cleifion cyntaf a gafodd ei gludo mewn hofrennydd gan yr Elusen ar ôl dod yn wasanaeth 24/7 oedd Dai Davies, sy'n dad i dri o blant. Cafodd staff meddygol eu galw i gartref Dai yn Sir Benfro ar ôl iddo ddioddef ataliad ar y galon wrth iddo baratoi i fynd i'r gwely, ym mis Chwefror 2021.

Dai Davies

Mae tad i dri o blant o Sir Benfro wedi diolch i'r gwasanaethau brys a helpodd i achub ei fywyd.

Ym mis Chwefror 2021, roedd Dai Davies yn paratoi i fynd i'r gwely pan lewygodd yn sydyn a dioddef ataliad ar y galon.

Helpodd gwraig Dai, Taryan, a'i fab Caleb, 18 oed, i achub ei fywyd gan ddechrau gwneud CPR wrth iddynt aros i'r ambiwlans gyrraedd.

Pan gyrhaeddodd y parafeddygon, roedd gan galon Dai rhythm annormal ac nid oedd yn curo fel y dylai. Aeth y parafeddygon ati i'w ddadebru, gan roi dwy sioc iddo a llwyddodd yr ail sioc i adfer rhythm normal i'w galon.

Pan gyrhaeddodd hofrennydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyda'i thîm gofal critigol dros nos – Dr Matt O'Meara, yr Ymarferydd Gofal Critigol Marc Allen, a'r peilot Nobby Norris – roedd Dai wedi dechrau dod ato'i hun ac wedi cynhyrfu ac nid oedd yn anadlu'n effeithiol.

Gwnaethant asesu Dai yn gyflym a gwelsant fod ei lefelau ocsigen yn isel a bod angen iddynt ei helpu i anadlu. I wneud hyn, bu'n rhaid iddynt roi anaesthetig cyffredinol iddo a'i roi ar wyntiedydd a fyddai'n anadlu drosto.

Mae'r driniaeth hon yn anodd a chymhleth ac mae gweithredu'n gyflym yn holl bwysig. Mae'r driniaeth hon ond yn bosibl y tu allan i'r ysbyty diolch i Ambiwlans Awyr Cymru a'r ffaith bod gan yr Elusen feddygon ymgynghorol profiadol.

Mae'r driniaeth hon yn un o'r llu o driniaethau a geir mewn adrannau brys y gall yr Elusen eu rhoi nawr yn y fan a'r lle gan wella siawns y claf o oroesi a gwella.

Ar ôl cwblhau'r driniaeth ar y safle, cafodd Dai ei gludo yn yr hofrennydd yn syth i'r ganolfan gardiaidd yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Dim ond 25 munud a barodd y daith yn yr hofrennydd o'i gartref yn Neyland i'r ysbyty, taith a fyddai wedi cymryd tuag awr a chwarter ar y ffordd.

Wrth siarad am y gwasanaeth a achubodd ei fywyd, dywedodd Dai: “Rwy'n fythol ddiolchgar i'r gwasanaeth ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru am eu gwaith ac am fy nghludo i'r ysbyty mor gyflym ag y gwnaethon nhw. Rwyf wir yn gwerthfawrogi popeth y maen nhw wedi'i wneud i mi. Byddwn i ddim yma oni bai amdanyn nhw.”

Roedd y tad i dri yn rhedwr ac yn feiciwr brwd cyn iddo gael ei daro'n sâl ac wrth ystyried a oedd unrhyw arwyddion a allai fod wedi awgrymu bod ganddo broblem, dywedodd Dai: “Cefais i boen yn fy nghefn wrth i mi ddyfarnu gêm tua phum mlynedd yn ôl. Cefais i sganiau MRI a ffisiotherapi a gwnes i barhau i fyw gyda'r boen a oedd yn mynd a dod. Ers iddo ddigwydd, rwyf wedi bod yn darllen am ataliadau ar y galon ac roedd y symptomau hyn yn arwydd mawr.”

Cafodd y cynorthwyydd cymorth dysgu yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd lawdriniaeth i osod tri stent a chafodd ei ryddhau o'r ysbyty ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Dywedodd: “Rwy'n teimlo'n weddol. Rwyf wedi cael tri stent, wedi colli 10 cilogram o bwysau drwy raglen adsefydlu cardiaidd ac wedi rhoi'r gorau i fwyta'r holl bethau blasus roeddwn yn arfer eu mwynhau. Mae fy ngwraig hefyd wedi prynu beic Peloton newydd i mi barhau i wneud ymarfer corff gartref. Mae fy mhlant, Chloe, Caleb ac Aidan, i gyd wedi sylwi fy mod wedi newid ers cael yr ataliad ar y galon, maen nhw'n meddwl fy mod i'n fwy tawel a digyffro nawr.”

Drwy gydol ei adferiad, cafodd Dai arweiniad a help arbenigol drwy gael hyfforddiant personol gan yr hyfforddwr adsefydlu cardiaidd Dave Braithwaite. Mae Dai nawr yn edrych tuag at y dyfodol.

Mae Jo Yeoman yn nyrs cyswllt cleifion sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: “Mae'n bleser gennym weld bod Dai yn gwella o dipyn i beth. Mae stori Dai yn dangos y gadwyn hanfodol ar gyfer goroesi, o CPR, diffibrilio, ac yna ofal critigol. Roedd Taryan a Caleb yn anhygoel ac roedd y gwaith partneriaeth rhwng meddygon Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi sicrhau bod Dai wedi cael y gofal gorau posibl cyn iddo gyrraedd yr arbenigwyr yn Ysbyty Treforys.

“Mae stori Dai yn pwysleisio pwysigrwydd cael gwasanaeth ambiwlans awyr sydd ar gael dros nos yn ogystal ag yn ystod y dydd.”

Dywedodd Christian Newman, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Sir Benfro: “Yn achos ataliad ar y galon, mae pob eiliad yn cyfrif, ac roedd y CPR a ddechreuwyd gan wraig a mab Dai wedi rhoi'r cyfle gorau posibl iddo oroesi. Mae ein hymdrechion ni ar y cyd â chydweithwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru ac, yn ddiweddarach, y gofal a gafodd Dai gan yr arbenigwyr yn Ysbyty Treforys, yn dangos pa mor bwysig yw gwaith partneriaeth i ofal cleifion. Rydym yn dymuno'r gorau i Dai wrth iddo barhau â'i adferiad.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.