23/07/2020

Mae dyn profiadol wrth baragleidio yn bwriadu mynd i'r awyr i godi arian i elusen a ddaeth i'w helpu.

Mae Chris Ashdown, sy'n 51 oed ac yn dod o Rosan ar Wy, yn bwriadu paragleidio heb gymorth dros Alpau Ffrainc er budd elusen hofrennydd sy'n achub bywydau – Ambiwlans Awyr Cymru.

Prynodd Chris docyn unffordd i Ffrainc, a'r wythnos hon, mae'n ceisio croesi Alpau Ffrainc heb gymorth drwy baragleidio. Bydd yn gleidio dros yr ardal o Saint-Andre-Alps yn y de i Chamonix yn y gogledd a thu hwnt i'r Swistir ar antur 'volbiv' sef y term Ffrangeg am wersylla awyr. Mae'r holl gynlluniau yn dibynnu ar y tywydd.

Wrth feddwl am ei resymau dros godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Chris: "Rwy'n codi arian i'r gwasanaeth brys anhygoel y mae'r elusen yn ei ddarparu. Rwy'n codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod hi'n bosibl y bydd angen i ni gyd ddefnyddio'r gwasanaeth un diwrnod.

"Rwy'n gweld neu'n clywed yn aml am hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn achub peilotiaid paragleidio sydd wedi'u hanafu. Rwyf wedi bod yno ar sawl achlysur pan mae'r gwasanaeth wedi dod i helpu cyd-beilotiaid sy'n wynebu anawsterau. Mae'r gwasanaeth hyd yn oed wedi fy helpu i, ond roeddwn yn iawn, diolch byth.

"Felly, roeddwn yn meddwl mai'r peth iawn i'w wneud fyddai ceisio codi ychydig o arian i'r gwasanaeth."

Canslwyd taith wreiddiol Chris, sy'n aelod o Glwb Paragleidio de ddwyrain Cymru ac sy'n hedfan yn rheolaidd yn y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog, o ganlyniad i COVID-19.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian  Ambiwlans Awyr Cymru: "Pob lwc i Chris yn ei ymgais i baragleidio ar draws Alpau Ffrainc. Mae'n siŵr taw hon yw'r ffordd fwyaf dramatig a thrawiadol o godi arian.

"Mae bob amser yn codi calon pan fyddwn yn clywed am achosion lle roedd angen ein help ar bobl, a'u bod yn mynd ati wedyn i godi arian i'n helusen. Rydym yn gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol i Chris ac yn diolch iddo am godi arian sydd ei angen yn fawr yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Chris drwy ei noddi yma.

Gallwch ddilyn siwrne Chris drwy ei dudalen Facebook 'Paraglide adventure across the French Alps.'