24 Mai 2023

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o gyhoeddi bod ei chaffi, Caffi HEMS, wedi cael sgôr hylendid bwyd lefel 5 yn ei safle newydd.

Gwnaeth yr Arolygwyr Asiantaeth Safonau Bwyd ymweld â Chaffi HEMS fel mater o drefn y mis diwethaf a rhoi adroddiad gwych iddo.

Mae'r caffi, sydd wedi'i adleoli yng Nghanolfan Fanwerthu newydd Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon, yn yr hen siop Argos ym Mhenllyn yn y dref, yn gwerthu brechdanau, pasteiod, cacennau cartref, te arbennig a choffi.

Ers iddo agor ddydd Llun, 20 Mawrth 2023, mae Caffi HEMS wedi dod yn fan cyfarfod poblogaidd ar gyfer cwsmeriaid o bob oedran yn ogystal â grwpiau cymunedol lleol.

Y siop yng Nghaernarfon yw canolfan fanwerthu gyntaf yr elusen sy'n achub bywydau yng Nghymru ac mae'n cynnig dillad, nwyddau i'r cartref a dodrefn ail law, ynghyd â denu pobl i'r caffi.

Mae'r siop amlddefnydd sy'n rhan o lasbrint manwerthu newydd yr Elusen yn cynnig man cwrdd cymunedol i gefnogwyr, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach.

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n newyddion gwych bod Caffi HEMS wedi cael Sgôr Hylendid Bwyd Lefel 5. Roedd mor bwysig i ni gyflawni hyn ac mae'r diolch i waith caled ac ymroddiad ein tîm arbennig.

“Ers i Gaffi HEMS ailagor, mae wedi profi'n llwyddiant yn y gymuned ac mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae'n ardal gymdeithasol wych ac mae'r tîm hyd yn oed wedi cynnal bore goffi ar gyfer cangen leol Sefydliad y Merched yn ddiweddar. Dewch i'n gweld lle byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes, paned a bwyd lleol blasus.”

Caiff Caffi HEMS ei reoli gan staff Ambiwlans Awyr Cymru Tracey Axford a'i dirprwy Jessica Bailey. Mae gan y ddwy brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant arlwyo.

Wrth siarad am y Sgôr Hylendid Bwyd Lefel 5, dywedodd Tracey ei bod yn anrhydedd derbyn y gydnabyddiaeth.

Dywedodd: “Mae Jessica a minnau mor falch o gael y sgôr hylendid bwyd uchaf ar gyfer Caffi HEMS. Mae'r ddwy ohonom yn gweithio'n galed i sicrhau bod y caffi yn llwyddiannus ac yn cynnal safonau uchel bob amser.

“Mae'n rhoi boddhad i'r ddwy ohonom ac mae'n beth da i'n cwsmeriaid wybod bod y caffi yn lân ac yn hylan.

“Mae awyrgylch hyfryd yn y caffi ac mae gennym amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae'n canolbwyntio'n helaeth ar y teulu ac mae gennym lawer o syniadau wedi'u cynllunio ar gyfer y caffi yn y dyfodol.”

Mae Caffi HEMS yn defnyddio cynnyrch gan gyflenwyr a busnesau lleol gan gynnwys Tŷ Becws, Coffi Dre, Jones o Gymru a Brakes ac mae'r brechdanau'n cael eu gwneud yn ffres ar y safle.

Dywedodd Jessica: “Mae'n hyfryd bod y caffi'n cefnogi busnesau a chyflenwyr eraill yng Nghaernarfon a'r cyffiniau. Fel caffi cymunedol mae pob un ohonom yn canolbwyntio ar gefnogi a gwasanaethu ein cymuned leol. Mae ein cwsmeriaid mor gyfeillgar ac rydym bellach yn dechrau cael cwsmeriaid rheolaidd, ac felly rydym yn cael sgwrs dda â nhw.

“Mae digonedd o ddewis yng Nghaffi HEMS, gan gynnwys opsiynau fegan a llysieuol. Mae rhai o'n cwsmeriaid yn dod i edrych o gwmpas y siop elusen ac yna'n dod i'r caffi, mae rhai pobl yn galw heibio dros eu hamser cinio, mae rhai'n dod am goffi sydyn wrth aros am y bws y tu allan ac rydym yn gweld teulu a ffrindiau yn cwrdd wrth siopa.

“Rydym wrth ein boddau ac yn falch o gael y Sgôr Hylendid Bwyd Lefel 5. Rwy'n caru fy swydd gan fod pawb mor gyfeillgar ac rwy'n credu bod y cwsmeriaid yn hoffi dod yma am ei fod yn awyrgylch braf a hapus.”