Mae teulu Huw Moss Hughes wedi codi £3,314 er cof amdano i'r elusen a frwydrodd i achub ei fywyd.

Cerddodd Bryony Nicholson, sef partner Huw, am 18 o filltiroedd gyda'i theulu a'i ffrindiau o'i chartref ym mhentref Afonwen ym Mhen Llŷn i'r ganolfan awyr yng Nghaernarfon.

Gwnaeth eu merch tair oed, Alys-Non, ymuno â'r teulu ar gyfer rhan olaf y daith gerdded.

Bu farw Huw, a oedd 25 oed, yn 2018 ar ôl damwain beic modur, pan oedd Alys-Non ond yn chwe mis oed. Cafodd y plastrwr a'r pencampwr codi pwysau ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke gydag anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd ond, yn anffodus, bu farw ychydig ddyddiau'n ddiweddarach gyda'i deulu o'i amgylch.

Mae teulu Huw yn ddiolchgar i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru am y driniaeth a roddwyd iddo yn dilyn y ddamwain.

Bob blwyddyn ers ei farwolaeth drasig, mae ei deulu wedi codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er gof amdano. Hyd yma, maent wedi codi swm anhygoel o £8,500.

Wrth feddwl am y daith gerdded a'r arian a godwyd i'r elusen, dywedodd Bryony: “Roedd y daith gerdded yn dda iawn, er i ni gael cawodydd. Roedd Alys yn edrych ymlaen at ymuno â ni ar gyfer rhan olaf y daith gerdded, ac roedd aelodau o'r teulu yn aros amdanom ar ddiwedd y daith.

“Roeddwn i mor falch. Cawsom ein syfrdanu gan swm yr arian a godwyd – mae'n dda iawn. Doedden ni byth yn meddwl y bydden ni'n codi cymaint. Rwyf am iddo fynd tuag at helpu pobl eraill. Mae’r cymorth a gawsom gan deulu a ffrindiau wedi bod yn anhygoel, yn enwedig gan fam Huw.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Dywedodd Alwyn Jones, cydlynydd codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Nid yw'n bosibl dychmygu'r poen a'r tristwch y mae'r teulu wedi'u dioddef ers colli Huw. Mae'n anhygoel clywed bod y teulu wedi cynnal dau ddigwyddiad codi arian er cof am Huw, sy'n wirioneddol ysbrydoledig. Diolch yn fawr i Bryony, Alys-Non, a'u teulu a'u ffrindiau am eu cefnogaeth barhaus i Ambiwlans Awyr Cymru. Maent wedi codi swm anhygoel o £8,500 er cof am Huw. Diolch yn fawr”

Mae Bryony yn gobeithio cynnal rhagor o ddigwyddiadau codi arian yn y dyfodol, yn enwedig gan y bydd yn rhywbeth y gall Alys edrych ymlaen at ei wneud er cof am ei thad.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.