02/07/2020

Mae bod yn ymatebwr cyntaf gydag Ambiwlans Cymru yn golygu mai chi yw'r person cyntaf i gyrraedd y digwyddiad, ac mae yna siawns bob amser y gallech fod yn trin rhywun rydych yn ei adnabod.  Digwyddodd hynny i Damian Williams pan anfonwyd ef ar alwad i helpu rhywun a oedd yn cael trawiad ar y galon – a dysgu mai ei dad-cu oedd hwnnw.

Yn ei rôl, ffoniodd Damian Ambiwlans Awyr Cymru i gael cymorth, ond er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw ei dad-cu, John Williams. Er mwyn dangos ei gefnogaeth i'r meddygon a geisiodd eu gorau glas i achub ei dad-cu annwyl, mae wedi codi arian i'r elusen sy'n achub bywydau.

Cododd arian drwy gynnal set DJ byw ar-lein ar Facebook. Cafodd y gwylwyr wledd pum awr yn camu drwy'r degawdau gyda Damo, ac ar un pwynt roedd 1,000 o bobl yn gwylio, gan gynnwys pobl leol a ffrindiau sydd fel arfer yn dod ar wyliau i Gymru.

Mae Damian, 37 oed, sy'n byw ac yn gweithio ym Maes Carafanau Caerddaniel yn y Bermo, Gwynedd wedi rhagori ar ei darged o £1,600 ac wedi codi £1,910 hyd yn hyn.

Ar ôl gweld apêl Ambiwlans Awyr Cymru, roedd yr ymatebwr cyntaf am wneud rhywbeth i helpu, yn enwedig ar ôl eu hymdrechion i helpu ei dad-cu.

Dywedodd y tad i ddau, sydd wedi bod yn ymatebwr cyntaf cymunedol ers 11 mlynedd: "Dair blynedd yn ôl, daethant i fy helpu pan oeddwn ar alwad i drin unigolyn a oedd yn cael trawiad ar y galon, sef fy nhad-cu. Gwnaethom bopeth posibl er mwyn ceisio ei achub, ond yn anffodus, bu farw. Felly, rwyf bob amser wedi bod am ddangos fy ngwerthfawrogiad drwy eu helpu i godi arian.

"Penderfynais y byddai chwarae cerddoriaeth i bobl o bob oedran yn hwyl, ac yn ffordd o geisio helpu Ambiwlans Awyr Cymru i godi arian sydd ei angen yn fawr. Mae'r Elusen yn gwasanaethu ein cymunedau yng Nghymru a'r bobl sy'n dod yma i ymweld â ni ar eu gwyliau. Gwn fod y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn angenrheidiol yn yr ardaloedd gwledig hyn lle mae'r ysbytai agosaf rai oriau i ffwrdd ar y ffordd.

"Maent wedi cael eu galw unwaith neu ddwy pan rwyf wedi bod yn gweithio – rwy'n credu eu bod yn anhygoel. Rwyf wedi dysgu bod hedfan at un claf yn costio £1,600 ar gyfartaledd ac felly rwyf wedi gosod y targed hwnnw ar gyfer fy nhudalen Go Fund Me."

Mae Damian wrth ei fodd â'r swm y mae wedi'i godi ac yn gobeithio y bydd yn achub bywyd. Ychwanegodd: 'Roedd cefnogaeth y cyhoedd yn wych, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am fy nghefnogi. Mae'r bobl leol a nifer o'r twristiaid a gyfrannodd yn gwybod pa mor ddibynnol ydym ar Ambiwlans Awyr Cymru yma yn y Bermo. Rwyf wedi fy syfrdanu â'r arian a godwyd – doeddwn i ddim yn credu y gallwn i gyrraedd y swm hwnnw o gwbl – mae'n gwbl anhygoel. Rwy'n gobeithio y bydd yr arian hwn yn helpu'r Elusen ac yn gwneud gwahaniaeth i rywun."

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian yr Elusen yn y gogledd: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Damian i'n helusen. Mae'n wych clywed bod Damian am ddangos ei gefnogaeth i'n meddygon, er gwaethaf ei golled, a'r hyn a wynebodd y diwrnod hwnnw. Mae'n ymddangos bod nifer o bobl wedi mwynhau set DJ Damian, a hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd ei ymdrech codi arian."

Gallwch noddi Damian drwy ei dudalen Go Fund Me - Wales Air Ambulance Damo through the decades yma.