Bydd gêm rygbi pump bob ochr 24 awr o hyd yn cael ei chynnal ar gopa Pen y Fan y penwythnos nesaf er cof am Andrew Williams.

Bydd y digwyddiad yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a thair elusen arall sef Myeloma UK, Rockwood ac Elusen yr Ymladdwyr Tân.

Bu farw Andrew, a gâi ei adnabod fel Gonzo ac a oedd yn gefnogwr rygbi brwd, ym mis Awst yn dilyn brwydr â Chanser Myeloma Lluosog a Covid-19.

Bydd hyd at ddeg o ffrindiau a theulu Andrew yn cymryd rhan yn y digwyddiad codi arian ar gopa uchaf Bannau Brycheiniog o 6am ddydd Gwener 17 Mehefin tan 6am drannoeth, ddydd Sadwrn 18 Mehefin, sef diwrnod pen-blwydd Andrew.

Sefydlwyd digwyddiad codi arain – ‘Gonzo's Game’ – ar ôl i bwyllgor o deulu a ffrindiau agos Andrew, o Aberhonddu, ddod at ei gilydd i gynllunio'r gêm.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys dyweddi Andrew, Lisa Jenkins, ei gefndryd, Alan Taylor a Sarah Pritchard, ei ffrindiau gorau, Lyn Parry a Martyn Keylock, ffrind agos arall i'r teulu, Glenda Evans, a'i gyfaill da, Des Lally.

Mae'r tîm a fydd yn chwarae'r gêm 24 awr o hyd yn cynnwys ei deulu a'i ffrindiau da o'i griw o ffrindiau pennaf. Bydd mab hynaf Andrew, Ryan, hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gêm.

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Mae'r gwasanaeth 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd Helen Pruett, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Pob lwc i bawb a fydd yn cymryd rhan yn y gêm rygbi pump bob ochr dros gyfnod o 24 awr er cof am Andrew Williams ar gopa Pen y Fan. Mae ei ddyweddi, Lisa, a'i deulu a'i ffrindiau wedi dod ynghyd i godi arian i bedair elusen bwysig a oedd yn agos at galon Andrew. Diolch am godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae digwyddiadau codi arian fel hyn yn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Cymru, yn yr awyr ac ar y ffordd, pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”