Daeth cymuned garedig at ei gilydd i godi dros £1,500 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru er cof am gymydog, Stephen Evans.

Ar ddiwrnod cyntaf y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mawrth 2020, bu farw Stephen o Stryd Powell, Abertyleri er gwaethaf ymdrechion Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r cymdogion bellach wedi mabwysiadu Ambiwlans Awyr Cymru fel yr elusen y bydd y stryd yn codi arian iddi ac maent wedi codi swm anhygoel o £1,508.50. Yn ystod misoedd yr haf, gwnaethant gynnal nifer o bartïon stryd, gan gadw pellter cymdeithasol.

Dim ond 49 o dai sydd yn y stryd, ond trefnodd amrywiaeth o wahanol weithgareddau gan gynnwys helfa drysor i blant, raffl, bingo a chwis.

Mae'r trigolion wedi trefnu pedwar parti stryd dros gyfnod o 18 mis, a llwyddodd y tri pharti diweddaraf i godi £400, £640 a £434 yn ogystal â chymorth rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru.

Daeth gwraig Stephen, Helen, a'i fab, Jayden, 11 oed, i'r partïon stryd, a llwyddodd trigolion y stryd i godi £260 cyn i'r parti diweddaraf gael ei gynnal hyd yn oed.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn  Nafen, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.   

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. 

Dywedodd un o'r cymdogion, Dawn Price: "Dechreuodd hyn oll ar ddiwrnod cyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf. Cawsom brofiad uniongyrchol o ba mor galed y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithio i achub bywydau. Roedd rhai o'r cymdogion yn gadael eu tai i fynd i'r gwaith, ond roedd ambiwlans a dau gerbyd ymateb brys yn y stryd yn ceisio achub bywyd Stephen.

"Gwnaed cais am ambiwlans awyr ac ymatebodd yn gyflym iawn. Roedd yn anodd credu cyflymder, ymdrech, lefel cyfathrebu a phroffesiynoldeb y dynion a'r merched hyn a'r pwysau eithriadol a oedd arnynt."

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Gan gyfeirio at yr arian a godwyd, dywedodd Dawn: "Cawsom ein synnu ar yr ochr orau. Adeg cynnal y parti stryd cyntaf, roeddem am godi rhwng £200 a £300 i ddechrau, a fyddai'n ymdrech dda, yn ein barn ni. Mae'r swm o arian rydym wedi llwyddo i'w godi yn ystod y partïon yn anhygoel."

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: "Er gwaethaf colli cymydog annwyl, daeth y stryd at ei gilydd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a'r GIG. Mae'n deyrnged hyfryd i Stephen. Diolch i bob un ohonoch sydd wedi codi codi arian, wedi rhoi gwobr raffl ac wedi cefnogi ymgyrch codi arian Stryd Powell. Rydych wedi codi swm anhygoel, sef £1,508, a bydd pob rhodd yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaeth i bobl pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.