Mae staff Cymdeithas Adeiladu Abertawe wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae'r staff, sy'n gobeithio codi £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod y flwyddyn, eisoes wedi rhoi £2,500, a godwyd ganddynt drwy bleidlais rithwir a gynhaliwyd fel rhan o'u Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Er gwaethaf yr heriau a godwyd yn sgil pandemig y Coronafeirws, rhoddodd Cymdeithas Adeiladu Abertawe y swm rhagorol o £10,718.

Os caiff cyfyngiadau COVID-19 eu llacio, bydd y staff yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian drwy gydol y flwyddyn, gan roi'r holl arian a godir i'r Elusen. Ar hyn o bryd mae'r staff yn cynnal digwyddiad gwisgo'n hamddenol bob mis fel rhan o'u hymgyrch codi arian.

Dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru eleni ar ôl i aelodau gweithredol o'r tîm enwebu tair elusen er mwyn i'r staff gael dewis eu Helusen y Flwyddyn. Aeth y staff ymlaen i bleidleisio dros yr elusen roeddent am ei chefnogi. O ganlyniad i bandemig COVID-19, penderfynodd Cymdeithas Adeiladu Abertawe ddewis Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen y Flwyddyn am flwyddyn arall.

Mae Cymdeithas Adeiladu Abertawe, sy'n tynnu sylw at waith Ambiwlans Awyr Cymru ar ei gwefan, yn falch iawn o gefnogi'r elusen, ac yn teimlo bod y cymorth a roddir i'r elusen sy'n achub bywydau yn hollbwysig.

Dywedodd Alun Williams, prif weithredwr Cymdeithas Adeiladu Abertawe: “Mae'n fraint fawr gallu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen swyddogol staff Cymdeithas Adeiladu Abertawe am flwyddyn arall. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'r sector elusennol, gan fod nifer mawr o'r dulliau a gweithgareddau codi arian a gynhelir fel arfer wedi cael eu cwtogi. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth hanfodol sy'n achub bywydau y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu yr un mor bwysig ag erioed, a dyna pam rydym o'r farn ei bod yn bwysig gwneud y rhoddion hyn drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na rhoi swm mawr ar ddiwedd y flwyddyn, fel y byddwn yn ei wneud fel arfer.

“Roedd y swm o £2,500 a roddwyd i Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiweddar yn cynrychioli punt am bob pleidlais a gafwyd yn ystod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; hoffem ddiolch i aelodau a staff y Gymdeithas am eu haelioni parhaus. Mae hyn yn ddechrau da i'n gweithgareddau codi arian ar gyfer 2021, ac rydym yn edrych ymlaen at godi mwy o arian byth yn ystod y misoedd nesaf.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. 

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae pawb yng Nghymdeithas Adeiladu Abertawe wedi bod yn anhygoel o hael tuag at ein Helusen. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth parhaus ac yn falch o fod yn gysylltiedig â nhw. Roedd 2020 yn flwyddyn bwysig iawn yn ein hanes, am ein bod wedi cyflawni ein nod o fod yn wasanaeth sy'n achub bywydau 24/7, bob diwrnod o'r wythnos.

“Rydym yn dathlu 20 mlynedd er sefydlu'r gwasanaeth eleni ac mae'n bleser mawr gennym wybod y bydd Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn rhan o'r garreg filltir bwysig hon.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.

I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Adeiladu Abertawe ewch i

www.swansea-bs.co.uk/content/swansea-building-society-news