Cyhoeddiad cyhoeddus (25 Awst 2022) Hoffem achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddadansoddiad parhaus ein gwasanaeth ambiwlans awyr. Fel y cafodd ei grybwyll yr wythnos diwethaf, mae dadansoddiad helaeth yn mynd rhagddo sy'n edrych ar p'un a allwn gyrraedd rhagor o gleifion difrifol wael ac wedi'u hanafu'n ddifrifol yng Nghymru gyda'r adnoddau Elusennol a GIG gwerthfawr a dderbyniwn. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd gwych yn hyn o beth yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy wneud y gorau o'r gorsafoedd rydym yn gweithio ohonynt a thrwy ychwanegu gweithrediad dros nos. Mae a wnelo'r broses ddadansoddi gyfredol â gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym ac nid yw erioed wedi ymwneud ag arbedion ariannol na thoriadau o ran darpariaeth y gwasanaeth. Roeddem yn bwriadu dechrau ar broses ymgysylltu ar ôl i'r dadansoddiad gael ei gwblhau'n llawn. Fodd bynnag, mae'r cyfryngau wedi derbyn rhywfaint o wybodaeth ac wedi gofyn i ni ymateb i gwestiynau penodol a gafodd eu hateb gyda'r wybodaeth sydd ar gael. Un gofid sydd wedi codi wrth i ni edrych ar rai o'r cwestiynau a ofynnwyd ohonom yw deall y gwasanaeth a ddarparwn ar hyn o bryd, ac a fyddwn yn gwneud mwy i rannu'r wybodaeth hon gyda chi dros y misoedd nesaf. Mae'r cysyniad bod a wnelo'r ambiwlans awyr â chyflymder a throsglwyddo sydyn i'r ysbyty yn unig bellach wedi'i ddisodli â chenhadaeth sylfaenol i gael ymyriadau meddygol uwch yn uniongyrchol i bobl yn eu cymunedau eu hunain. Mae ambiwlansys awyr bellach yn gweithredu model ‘gofal critigol’ dros y DU i gyd gan fynd â thîm o feddygon cymwys iawn i'r safle i roi gofal critigol safon adran achosion brys cyn trosglwyddo'r claf i ysbyty priodol. Gallwch fod yn dawel eich meddwl nad yw'r esblygiad hwn o ambiwlansys awyr ledled y DU, ac yma yng Nghymru, wedi cwtogi'r gwasanaeth ambiwlans awyr sydd ar gael i chi: mae wedi'i wella, sy'n golygu ein bod ni'n achub mwy o fywydau nag erioed. Nid yw edrych ar amser ymateb ar ei ben ei hun, yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni'n mynd â'r ysbyty atoch chi – ble bynnag ydych chi. Mae hyn yn gostwng yr amser cyffredinol o ran derbyn triniaethau gofal critigol ac yn cyflymu adferiad. Rydym hefyd wedi derbyn llawer o gwestiynau mewn perthynas â darpariaeth weithredol y gwaith arfaethedig o ffurfweddu'r gwasanaeth. Wrth i ni goladu'r cwestiynau hyn, gallwn weld bod gan lawer ohonynt themâu tebyg. Felly, byddwn yn creu adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan yr Elusen lle byddwn yn ateb yr ymholiadau hyn i bawb eu gweld. Dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o ymateb gan mai sefydliad bach ydyn ni a bydd ateb pob ymholiad unigol yn symud adnoddau gwerthfawr i ffwrdd o'r tasgau o ddydd i ddydd sy'n ofynnol i gadw ein gwasanaeth achub bywydau i fynd. Unwaith eto, elusennau bach yw'r Elusen hon ac EMRTS ac mae swm y galw am wybodaeth a thrafod dros yr wythnos diwethaf wedi tynnu ein sylw i ffwrdd o'r broses ymgysylltu helaeth yr oeddem wedi bod yn ei chynllunio cyn i'r wybodaeth gael ei datgelu. Er bod ymateb i'r pryderon a godwyd ac ymholiadau'r cyfryngau yn bwysig, mae hyn wedi bod ar draul cyfathrebu â'r cyrff a'r cynrychiolwyr hynny y byddai disgwyl iddynt gymryd rhan yn ein gweithgareddau ymgysylltu o'r dechrau'n deg fel rheol. Bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS bellach yn parhau gyda'r broses gynlluniedig honno, a fydd yn cynnwys sgyrsiau gydag ystod o sefydliadau perthnasol ar hyd a lled Cymru, sy'n cynrychioli eich siroedd a'ch cymunedau. Fel y cafodd ei ddatgan yn flaenorol, caiff y dadansoddiad manwl hwn ei gynnal gan EMRTS, sef partneriaid meddygol yr Elusen a sefydliad modelu data allanol. Fel gwasanaeth GIG Cymru, mae gan EMRTS broses ymgysylltu i'w dilyn hefyd, ochr yn ochr â chefnogi'r Elusen gyda'i hymgysylltiad. Mae hyn ar waith hefyd. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am y broses a'r amserlenni ymgysylltu yn y dyfodol agos. Cylch gwaith ein gwasanaeth yw mynd at argyfyngau sy'n peryglu bywydau neu'r coesau a'r breichiau ledled Cymru. Nid sgwrs am ardaloedd ar eu hennill neu ar eu colled yw hon. Nid oes gan siroedd ffiniau pan fo achub bywydau yn y cwestiwn. Mae pob bywyd o bwys i ni – ac mae'r dadansoddiad a gyflwynwyd i ni yn dangos y bydd pob sir yn elwa'n gadarnhaol ar y newidiadau arfaethedig. Ein gwaith ni, fel rhan o'n cenhadaeth, yw ystyried unrhyw ddadansoddiad sy'n dweud wrthym y gallwn achub mwy o fywydau. Er mwyn i'r Elusen ac EMRTS gyflawni eu cenhadaeth a'u gweledigaeth, rhaid i ni ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio ein hadnoddau i ddarparu'r gofal gorau posibl i boblogaeth Cymru gyfan. Mae'r dadansoddiad a dderbyniwyd gennym yn awgrymu y gallem gyrraedd mwy o gleifion sydd ein hangen ni ac achub mwy o fywydau drwy newid y ffordd rydym yn defnyddio ein hadnoddau presennol. Mae'n bwysig cofio bod gan bob un ohonom un peth yn gyffredin. Rydym yn caru Ambiwlans Awyr Cymru, yr hyn y mae'n ei wneud a'r hyn y mae'n sefyll amdano. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ymgysylltu â chi yn y dyfodol. Dr Sue BarnesPrif Weithredwr, Ambiwlans Awyr Cymru Yr Athro David LockeyCyfarwyddwr Cenedlaethol, Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Manage Cookie Preferences