Annwyl Ffrindiau,

Dros y diwrnodau diwethaf, byddwch chi wedi gweld penawdau am ein gweithrediad yn y Trallwng. Hoffem rannu'r stori a'r amgylchiadau llawn gyda chi.

Yn gyntaf, hoffem esbonio'r rheswm fod y wybodaeth hon wedi dod allan fel y mae. Mae dadansoddiad helaeth yn mynd rhagddo sy'n edrych ar ydyn ni'n darparu ein gofal achub bywydau yn y ffordd fwyaf effeithiol a theg gyda'r adnoddau sydd gennym. Mae mwy o wybodaeth am hynny isod. Roeddem wedi bwriadu rhyddhau'r wybodaeth yn y dyfodol agos ar ôl i'r dadansoddiad gael ei gwblhau'n llwyr. Fodd bynnag, roedd y cyfryngau wedi derbyn gwybodaeth yn benodol am y Trallwng a gofynnwyd y cwestiwn.

Rydym yn ymfalchïo yn ein cyfathrebiadau ac yn rhoi gwerth uchel ar ein cydberthynas â'n cefnogwyr, gwirfoddolwyr a gweithwyr. Roeddem wedi cynllunio ac yn parhau i gynllunio cyfnod helaeth o ymgysylltu â phob un ohonoch, ond roeddem yn gwybod y gallai'r wybodaeth gyrraedd allfa gyfryngol ar ryw bwynt. Mae hyn yn golygu y bu rhaid i ni symud y gwaith o gyfleu ein hymchwil ymlaen a pheidio â dilyn y trywydd roeddem wedi'i gynllunio - gan siarad â phob un ohonoch yn gyntaf a gadael i'r data a'r dystiolaeth lawn roi'r achos. A gallaf ond ymddiheuro am nad oeddem wedi gallu gwneud hynny. Er gwaethaf sawl wythnos i ffwrdd rhag bod yn barod i fynd yn gyhoeddus, gwnaethom benderfynu ateb cwestiwn y cyfryngau yn onest gyda'r prif ffigurau a gyflwynwyd i ni yn hytrach na rhoi datganiad wrth gefn.

Y Dadansoddiad

Pam rydyn ni'n ystyried unrhyw newidiadau?

Fel rhan o'n hadolygiad strategol pellgyrhaeddol, rydym yn cynnal dadansoddiad manwl o'n data darparu gwasanaeth, galw cyfredol a'r defnydd o orsafoedd er mwyn deall a ydym yn darparu'r gwasanaeth mwyaf effeithiol i bobl Cymru. Rydych chi wedi ymddiried eich rhoddion hollbwysig ynom ac mae i fyny i ni nodi'r model darparu gwasanaeth gorau er mwyn cyflawni ein cenhadaeth a'n gweledigaeth i chi.

Cenhadaeth - Darparu gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen arnynt.​

Gweledigaeth - Gwella bywydau cleifion a'u teuluoedd drwy fod yn arweinydd byd ym maes gofal uwch pan fo amser yn brin. ​

Mae gennym ymrwymiad i'n cefnogwyr i gael yr effaith fwyaf posibl o roddion, gan sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl ledled Cymru'n elwa ar ein gofal critigol uwch. Mae gwella bywydau cleifion a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn, a phob penderfyniad a wneir, ac mae hynny wedi bod yn wir erioed.  Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi tyfu i fod yn un o'r gwasanaethau ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn y byd. Rydym wedi cyflawni pob datblygiad rydym wedi ymdrechu i'w gael. Diolch i'ch ymddiriedaeth a'ch cefnogaeth chi, rydym yn achub mwy o fywydau nag erioed. Ond gwyddom y gallwn wneud mwy.

Yn 2015, daethom yn wasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Mae hynny'n golygu ein bod ni bellach yn darparu'r gofal adran achosion brys lefel uchaf wrth safle digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gynnal mân lawdriniaethau, rhoi anesthesia a thrallwyso gwaed. Rydym yn mynd â'r ysbyty at y claf. Felly, mae cloc ‘yr awr euraidd’ yn stopio pan fyddwn yn cyrraedd y safle ac nid wrth gyrraedd yr ysbyty fel ydoedd o'r blaen – mae hyn yn gostwng yr amser y mae'n ei gymryd i gleifion gael y driniaeth achub bywyd y mae ei angen arnynt yn ddramatig.

Nid yn unig hynny, mae ein gallu i ddiagnosio gofynion meddygol cymhleth claf yn aml yn golygu y gallwn ni fynd â nhw'n syth at y cyfleuster meddygol sydd â'r gofal arbenigol sydd ei angen arnynt – gan leihau'r amser am driniaeth arbenigol ymhellach. Mae hyn yn gwella'r siawns o oroesi a gwella.

Ni yw'r elusen ambiwlans awyr fwyaf yn y DU, a gellir dadlau ein bod yn arweinydd byd o ran gofal uwch. Yn ogystal â'n pedwar hofrennydd, rydym wedi ychwanegu wyth Cerbyd Ymateb Cyflym at ein fflyd. Mae hyn yn golygu hyd yn oed pan fydd awyren yn segur (am resymau technegol neu gysylltiedig â'r tywydd) gall ein meddygon barhau i fynd at y cleifion i roi'r gofal achub bywydau hynny iddynt.

Mae ein strwythur gorsafoedd presennol wedi'i wreiddio mewn rhesymeg ac ymarfer hanesyddol. Arferai ambiwlansys awyr ffafrio meysydd awyr fel lleoliadau, ond mae'r sector wedi gweld symudiad cynyddol at hofrenfeydd/gorsafoedd awyr wedi'u hadeiladu i bwrpas a all wasanaethu eu cymunedau yn well. Mae'r newid o “fynd â chleifion i'r ysbyty yn gyflym i dderbyn gofal critigol” i'n model newydd o gael arbenigwyr gofal critigol yn uniongyrchol i gleifion wedi newid popeth.

Fodd bynnag, wrth i'n darpariaeth feddygol a'n cludiant ddod yn rhai o'r rhai mwyaf datblygedig a gynigir gan unrhyw wasanaeth ambiwlans awyr, mae rhywfaint o'n hisadeiledd gorsafoedd wedi aros yr un peth ag ydoedd pan gafodd ei gyflwyno dros 15 mlynedd yn ôl.

Y cwestiwn y gwnaethom ofyn i ni'n hunain fel rhan o'n hadolygiad strategol diweddar oedd, a oes digon o bobl yn elwa ar ein gwasanaethau? O ganlyniad, gwnaethom ddechrau ar y darn o waith mwyaf trwyadl ac uchelgeisiol y mae Ambiwlans Awyr wedi rhoi cynnig arno mwy na thebyg, sef gweld sut y gallem ffurfweddu ein gweithredoedd orau i gyfateb yn agosach anghenion pob sir yng Nghymru.

Caiff ein hamcanion eu rhannu gan ein partneriaid clinigol, Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) sy'n darparu ein meddygon. Cafodd EMRTS ei gomisiynu gan GIG Cymru i werthuso'r gwasanaeth yn barhaus a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau - yn benodol ehangu mynediad teg i'n gofal critigol uwch.

At ei gilydd, nod Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS yw nodi'r model gweithredol mwyaf effeithiol i'n gwasanaeth achub bywydau.

 

Canfyddiadau Ein Hymchwil

Er mwyn deall y galw presennol am ein gwasanaeth ac a ydym yn bodloni'r galw hwnnw'n effeithiol, mae nifer fawr o ddata ar alwadau wedi'u casglu o gronfeydd data EMRTS, yn ogystal â ffynonellau GIG Cymru eraill. Mae'r dadansoddiad yn un o'r mwyaf cynhwysfawr a gafodd ei gynnal gan unrhyw ambiwlans awyr yn y byd. Cafodd hwn ei ategu gan y gwerthusiad gwasanaeth pum mlynedd sylweddol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022

Roedd y dadansoddiad yn cynnwys edrych ar yr holl alwadau 999 hynny y gallem fod wedi mynd atynt ond nad oeddem yn gallu gwneud oherwydd nid oedd adnoddau ar gael gennym. Mae'r data hyn, a dorrwyd i lawr yn gyfnodau o amser, daearyddiaeth a thymoroldeb, wedi'u bwydo i mewn i'r feddalwedd dadansoddeg allanol a gyflwynodd gyfres o amcanestyniadau yn seiliedig ar nifer o fodelau gweithredol, fel patrymau sifftiau meddygol a gorsafoedd gwahanol.

Datgelodd y dadansoddiad y byddai'r modelau gweithredol mwyaf effeithiol a oedd ar gael gyda'n hadnoddau presennol yn ein galluogi i fynd at ryw 583 o alwadau achub bywyd ychwanegol ledled Cymru bob blwyddyn.

 

Beth yw'r model gweithredol mwyaf effeithiol a nodwyd gan yr ymchwil?

Mae canlyniadau'r dadansoddiad yn dweud wrthym fod yna leoliadau mwy effeithiol ar gyfer rhai o'n hadnoddau ac nad ydym yn gweithio ar yr amserau cywir i fodloni anghenion y cleifion bob amser. Yr ateb a ddaeth i'r amlwg dro ar ôl tro, drwy unrhyw ddull dadansoddi, oedd cydleoli'r adnoddau sydd gennym ar ymylon y wlad (Caernarfon a'r Trallwng) a'u cyfuno mewn un orsaf ac yn dyngedfennol, defnyddio'r timau meddygol cyfunol hynny i ddarparu gwasanaeth oriau estynedig sy'n fwy abl i ymateb dros yr awyr ac ar y ffordd, gyda dau hofrennydd a dau gerbyd ffordd ar gael iddynt. Mae'r data a'r broses ddadansoddi'n drwyadl a chadarn.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i Bowys?

Mae'r dadansoddiad yn dweud y canlynol i ni ar gyfer Powys:

  • Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 26 o alwadau ychwanegol yn y sir bob blwyddyn.

  • Gall y gwasanaeth gynyddu ei ymatebion 11% yn y sir. Dyma'r cynnydd gwella uchaf fesul 1000 o'r boblogaeth mewn unrhyw sir yng Nghymru.

  • Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fodloni 85% o'r galw am ei wasanaeth yn y sir (rydym yn bodloni 79% ar hyn o bryd).

 

Mae'n bwysig nodi nad sefydliad sy'n cael ei gymell gan dargedau ydym pan fydd hi'n dod i nifer y galwadau a fynychwyd. Rydym ond eisiau gwneud yn siŵr bod cynifer o bobl yn elwa ar ein gwasanaeth achub bywydau mewn ffordd gyn deced â phosibl – rhywbeth rydym yn gwybod eich bod chi'n poeni amdano hefyd, drwy sgyrsiau ac arolygon rheolaidd gyda'n cefnogwyr.

 

Sut mae'r dadansoddiad yn dod i'r casgliad hwn?

Rydym yn deall yn llwyr pam y byddai pobl ym Mhowys yn gweld y penawdau ac yn gofyn y cwestiwn sut mae'n bosibl darparu gwasanaeth gwell drwy symud i ffwrdd o'r sir.

Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad yn gymhleth iawn a phan ychwanegwch fanylion penodol gweithrediad ambiwlans awyr, mae angen naratif helaeth arno er mwyn peintio'r darlun llawn ac er mwyn iddo wneud synnwyr. Dyna pam rydym yn awyddus i gwblhau'r dadansoddiad ac yna cynnig trosolwg llawn o'r data a'r hyn mae'n ei olygu i chi. Yn unol â'n cynllun gwreiddiol, byddwn yn gwneud hyn mewn fforwm cyhoeddus lle byddwn yn cyflwyno'r wybodaeth i chi ac yn ateb eich cwestiynau.

Mae rhai o'n huwch-feddygon, y rhai sy'n dangos y ffordd mewn gofal critigol yn y DU ond hefyd yn fyd-eang, o'r farn bod y canlyniadau hyn o'r dadansoddiad yn arwyddocaol a gallent arwain at fanteision ledled Cymru. Dyma hefyd yw teimlad ein Hymddiriedolwyr, a hynny ar sail y wybodaeth maen nhw wedi'i gweld ac mae'n bodloni ein prif nod o gyflawni'r canlyniadau gorau i gleifion ac i'n cymunedau.

Byddwn yn parhau i geisio gwneud y peth gorau i bobl Cymru, fel yr ydym wedi'i wneud erioed.

Rydym yn cynrychioli holl gymunedau ein gwlad a'n dyletswydd cenhadaeth yw ceisio dod o hyd i'r model gweithredol iawn er budd pawb, a hynny mewn ffordd deg ac achub mwy o fywydau.

Mae ein neges yn glir ac yn dod o'r galon - credwch ynom ni. Y prif beth sydd wedi ein cymell bob amser yw eich budd chi. Byddem yn sicrhau y bydd unrhyw newidiadau y gellir eu gweithredu yn agored i'w craffu a'u beirniadu, fel sy'n digwydd bob tro.  Bob tro rydym wedi cyflwyno newid, bu'r newid hwnnw yn seiliedig ar dystiolaeth ac rydym wedi cyflawni'r newid hwnnw. Unwaith eto, rydym yn annog y rhai sydd â phryderon i gysylltu â ni drwy [email protected].

Byddwn yn ymdrechu i ateb negeseuon cyn gynted â phosibl, ond cofiwch mai sefydliad elusennol ydym ni gydag adnoddau cyfyngedig.

Yr unig beth a ofynnwn i chi cyn i chi lunio barn yw ein galluogi i rannu ac esbonio'r dadansoddiad a'i ganfyddiadau yn llawn, a byddwn yn gwneud hynny pan fydd y dadansoddiad wedi'i gwblhau.

Rydym yn llwyr ddeall ac yn gwerthfawrogi cryfder y teimlad ac yn annog cwestiynau adeiladol gyda'r gobaith o'u hateb yn llawn yn fuan iawn. Fodd bynnag, gofynnwn yn garedig nad yw'r sgwrs hon yn troi'n bersonol yn erbyn unigolion yn y sefydliad. Cofiwch ein bod ni i gyd eisiau'r un peth. Y cyfan y mae'r Elusen yn ei wneud yw ymateb i ganfyddiadau a gyflwynwyd iddi ac yn eu hastudio'n drwyadl, fel rhan o lywodraethiant cadarn yr Ymddiriedolwyr.

Mae'r dadansoddiad yn dangos y gallwn achub mwy o fywydau ym Mhowys a thrwy Gymru benbaladr. Ni allwn anwybyddu hyn a rhaid i ni roi ystyriaeth bellach iddo.

Cofion gorau

Dave Gilbert, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Sue Barnes, Prif Weithredwr