Cwrdd â’r Criw Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bartneriaeth unigryw â GIG Cymru, sy’n galluogi meddygon ac ymarferwyr i GIG i hedfan gyda'r elusen. Mae hyn yn golygu bod y cleifion yn cael triniaeth a gofal datblygedig cyn cyrraedd yr ysbyty. Drwy’r cynllun mae 22 o Feddygon Ymgynghorol ac 12 o Ymarferwyr Gofal Critigol yn hedfan gydag Ambiwlans Awyr Cymru fel rhan o Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnig ystod eang o gyfarpar soffistigedig a fflyd o gerbydau ymateb cyflym, a ddefnyddir ar gyrchoedd lle y bo’n briodol (e.e. tywydd gwael). Ein Meddygon Ymgynghorwyr Ein Peilotiaid HEMS Ein Hymarferwyr Gofal Critigol