10/09/2020

Mae cwpl o Lanfair-ym-Muallt wedi neidio er mwyn codi arian i ddwy elusen.

Mae Ffion Pugh a Mikey Powell, sy'n 20 oed ill dau, wedi codi £2,400 i  Ambiwlans Awyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Bracken drwy nenblymio yn Abertawe cyn pandemig COVID-19.

Roedd y ddau yn bryderus ynghylch neidio o'r awyren am nad oedd yr un ohonynt wedi gwneud dim byd tebyg o'r blaen.

Wrth feddwl am bwysigrwydd codi arian i'r ddwy Elusen, dywedodd Ffion:  “Gwnaethon ni benderfynu dewis Ambiwlans Awyr Cymru am fod aelodau o'n teuluoedd a rhai o'n ffrindiau wedi defnyddio'r gwasanaeth sy'n achub bywydau, ac am ein bod yn byw mewn ardal o'r wlad sydd mor wledig. Rydyn ni'n byw mewn rhan fach o Ganolbarth Cymru, ac mae'n cymryd mwy nag awr i gyrraedd yr ysbyty agosaf, felly mae'r ambiwlans awyr yn cynnig gwasanaeth brys sy'n hanfodol i'r ardal hon.

“Gwnaethon ni ddewis elusen ganser Ymddiriedolaeth Bracken am fod aelodau o'n teuluoedd a ffrindiau yn cael triniaeth.”

Dechreuodd y ddau deimlo'n nerfus wrth iddynt baratoi i nenblymio, ond roeddent yn llawn cyffro serch hynny.

Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Ffion:  “Wrth i ni gerdded i gyfeiriad yr awyren a pharatoi i fynd arni, gwnaethon ni sylweddoli bod hyn yn mynd i ddigwydd o ddifrif, ac nad oedd modd troi'n ôl. Ar ôl i ni gyrraedd 12,000 o droedfeddi, agorodd y drysau a'r unig beth roeddwn ni'n gallu ei weld oedd y cymylau.

“Wrth i ni eistedd ar yr ymyl yn barod i neidio, bwriodd yr awyr iach ein hwynebau a dyna ni'n meddwl, mae angen i ni fwynhau'r profiad, mae'n gyfle unigryw. Roedd ein hyfforddwyr yn hollol wych, gan esbonio popeth i ni.

“Roedd gadael yr awyren yn deimlad anhygoel.  Roedd y golygfeydd wrth i ni ddod allan o'r cymylau mor drawiadol, a chyn pen dim, roedden ni'n glanio.”

Mae'r cwpl wrth eu bodd eu bod wedi codi cymaint o arian. Dywedodd Mikey: “Roedd hyn yn brofiad na wnawn ni byth ei anghofio. Ein nod oedd ceisio codi cymaint o arian â phosibl. Roedd y gefnogaeth gan y cyhoedd yn wych, a gwnaethon ni godi £2,400 sy'n anhygoel. Diolch i bawb am y gefnogaeth.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De a Chanolbarth Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Ffion a Mikey am godi arian i'r ddwy elusen. Mae'n hyfryd clywed eu bod wedi mwynhau'r cyfle unigryw hwn a'u bod wedi codi arian hanfodol wrth wneud hynny er mwyn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Diolch i Ffion, Mikey a phawb a'u cefnogodd i godi'r arian hwn.”