Mae cwpl o Abertyleri wedi codi £779 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy ‘gerdded Cymru’ o Gyprus.

Gwnaeth Lawrence Morris, 52, a'i wraig Julie, 57, gerdded mwy na 163 o filltiroedd i'r elusen, tra roeddent yn aros yn eu hail gartref yn Pernera, de-ddwyrain Cyprus.

Rhoddodd Cerdded Cymru gyfle i gerddwyr  osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod  o fis o gysur eu cartrefi. Mae pob targed cyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru  a gellid cyflawni hyn gartref , yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau!  

Curodd y pâr eu targed gwreiddiol o 150 o filltiroedd, sef y pellter cerdded o Gastell Harlech i Gastell Caerdydd, sydd tua 343,000 o gamau.

Gwnaethant gwblhau eu her Cerdded Cymru ar 23 Mehefin a phenderfynu parhau i gerdded tan ddiwedd y mis. Fodd bynnag, cafodd Julie ddamwain anghyffredin a bu'n rhaid iddi gael pwythau yn ei choes, a oedd yn golygu na allent barhau i gerdded Cymru yn rhithwir o Gyprus. Gwnaethant gofnodi 445,000 o gamau yn ystod eu her, sy'n anhygoel.

Dywedodd Lawrence, sy'n gyn-swyddog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan haelioni ein teulu a'n ffrindiau drwy godi £779 i elusen mor arbennig; rydym wir yn teimlo'n ostyngedig a bod yn onest.

“Rydym wedi cael cymaint o gefnogaeth gan bobl yng Nghyprus ac yn ôl yng Nghymru, nid dim ond mewn rhoddion ond mewn negeseuon cefnogol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai a roddodd o'u hamser i wneud hynny. Mae ychydig o anogaeth wir yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Hefyd, mae'r negeseuon cefnogol drwy gydol yr her wedi ein hysbrydoli ac yn aml roeddent yn rhoi hwb amserol i ni wrth i baratoi i fynd allan i gerdded am y dydd.”

Mae'r cwpl, a deithiodd i Gyprus ym mis Medi a phenderfynu aros ar yr ynys, bellach wedi'u cofrestru fel preswylwyr ond maent yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru fis nesaf ar ôl iddynt ddathlu eu pen-blwydd priodas arian. 

Mae Julie a Lawrence yn falch o fod wedi cymryd rhan yn her Cerdded Cymru a byddent yn annog pobl eraill i godi arian i'r elusen.

Ychwanegodd Lawrence: “Byddem yn annog pobl eraill i gefnogi'r elusen wych hon lle bynnag y bo'n bosibl fel y gall barhau i ddarparu'r gwasanaeth sy'n achub bywydau i'n cymunedau ledled Cymru 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Er ein bod wedi gwneud cyfraniad bach i godi arian, y dynion a'r menywod sy'n darparu'r gwasanaeth ddylai gael y clod.”

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain,: “Mae Lawrence a Julie wedi codi £779 i'n helusen sy'n achub bywydau. Er gwaethaf y tywydd poeth, roeddent yn benderfynol o gerdded y pellter rhithwir o Gastell Harlech i Gastell Caerdydd tra'n aros yng Nghyprus. Gwnaethant ragori ar y targed hwnnw a pharhau i gerdded drwy gydol mis Mehefin, nes i anaf eu gorfodi i ddod â'u her i ben.

“Diolch yn fawr iawn i'r ddau ohonoch, rydych wedi dangos y gall pobl gymryd rhan yn her Cerdded Cymru yn rhithwir o unrhyw le yn y byd! Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd; mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Ni fydd gwaith codi arian Lawrence ar gyfer yr elusen yn dod i ben ar ôl cwblhau Cerdded Cymru - mae'n gobeithio dringo Eryri flwyddyn nesaf gyda'i ffrindiau Stephen Flower, Stephen Mogford ac Andrew Goodenough. Roedd disgwyl i'r dynion ymgymryd â'r her yn 2020 ond oherwydd y pandemig cafodd ei gohirio.

Mae amser o hyd i ddangos eich cefnogaeth i Lawrence a Julie drwy roi arian drwy eu tudalen Just Giving –Lawrence Morris Walk Wales / Cerdded Cymru

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.