Mae cwmni cludo nwyddau wedi parhau â'i gefnogaeth i Ambiwlans Awyr Cymru drwy roi £1,000 i'r Elusen. 

Mae prif swyddfa Owens Group UK wedi'i lleoli dafliad carreg i ffwrdd o bencadlys yr Elusen yn Nafen, Llanelli.

Mae'r staff yn Owens wedi hen arfer gweld yr hofrennydd sy'n achub bywydau, sydd wedi'i leoli yn Nafen, yn hedfan dros y safle, ond prin a wyddent y byddai'n cael ei alw allan i helpu mab un o'u cyflogeion un diwrnod.

Cafodd Cian (a oedd yn dair oed ar y pryd), mab Gareth Thomas, Arweinydd y Grŵp Gweithrediadau, ei rhuthro i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl iddo fynd yn ddifrifol wael a oedd yn golygu bod angen triniaeth arbenigol arno.

Dywedodd Ian Owen, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Owens Group: “Fel busnes teuluol lleol sy'n cyflogi dros 1,100 o bobl, roedd yn anochel y byddai angen cymorth gwych tîm Ambiwlans Awyr Cymru un diwrnod.

“Aeth mab Gareth yn ddifrifol wael a bu’n rhaid ei ruthro i Gaerdydd i gael triniaeth arbenigol frys. Heb yr ymateb cyflym a ddarparwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru, gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae Gareth a'i deulu yn falch o ddweud bod Cian wedi gwella'n llwyr a hoffent ddiolch o galon i bob aelod o'r tîm am y gwasanaeth brys a ddarparwyd iddo. Daliwch ati gyda'r gwaith gwych Ambiwlans Awyr Cymru a chymerwch ofal wrth hedfan.”

Nid dyma'r tro cyntaf i Owens gefnogi'r Elusen. Dair blynedd yn ôl, penderfynodd y grŵp cludo nwyddau ail-baentio ôl-gerbyd i gynnwys brand yr Elusen, gyda'r nod o hyrwyddo ei gwaith sy'n achub bywydau. Mewn lliw gwyrdd, coch a gwyn trawiadol, mae'r ôl-gerbyd yn parhau i hoelio sylw ar y ffyrdd y mae'n teithio arnynt bob dydd ledled y DU.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn Owens. Mae ei gefnogaeth barhaus yn anhygoel. Rydym yn gwerthfawrogi'r rhodd yn fawr, yn enwedig gan ein bod yn wasanaeth 24/7 erbyn hyn. Mae pob ceiniog a godwn yn hanfodol i sicrhau y gallwn fod yno i bobl mewn angen. Y peth gorau yw gwybod bod ein gwasanaeth yno i helpu Cian a'i fod bellach wedi gwella'n llwyr.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Owens drwy fynd i www.owensgroup.uk.