Mae cwmni cludo nwyddau lleol wedi rhoi Nadolig llawen i Ambiwlans Awyr Cymru unwaith eto drwy roi £1,000 i'r elusen sy'n achub bywydau.

Nid dyma'r tro cyntaf i Owens Group UK gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Rhoddodd y cwmni £1,000 i'r elusen y Nadolig diwethaf hefyd a phedair blynedd yn ôl gwnaeth y grŵp cludo nwyddau ailbaentio trelar gyda'r nod o hyrwyddo gwaith caled yr elusen Gymreig.

Defnyddiwyd lliwiau gwyrdd, coch a gwyn trawiadol i baentio'r trelar mawr ac mae'n parhau i hoelio sylw ar y ffyrdd y mae'n teithio arnynt ledled y DU.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn  Nafen, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.  

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.   

Mae prif swyddfa'r cwmni cludo nwyddau o Dde Cymru dafliad carreg i ffwrdd o bencadlys yr Elusen yn Nafen, Llanelli. Er bod y staff wedi hen arfer gweld yr hofrennydd yn hedfan dros y safle, prin a wyddent y byddai'n cael ei alw allan i helpu mab un o'r cyflogeion.

Y llynedd, cafodd Cian, mab Gareth Thomas, sef Rheolwr Depo Dafen, ei gludo ar yr hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl iddo fynd yn ddifrifol wael a oedd yn golygu bod angen triniaeth arbenigol arno. Yn ffodus, gwellodd Cian yn llwyr.

Gan fyfyrio ar bwysigrwydd yr elusen 24/7, dywedodd Siân Lloyd o Owens Group UK: “Mae pencadlys cwmni Owens Group wedi bod yn Nafen ers bron i 50 mlynedd. Byddwn yn dathlu hanner canmlwyddiant y busnes yn 2022 ac rydym yn falch iawn o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. O ystyried bod pencadlys Ambiwlans Awyr Cymru dafliad carreg o un o'n depos yn Nafen, Llanelli, byddwn yn gweld yr ambiwlans awyr yn hedfan yn aml iawn a gallwn ond ddychmygu'r hyn y maen nhw'n ei weld bob dydd.

“Mae'n ddarn hanfodol o gyfarpar sy'n helpu i achub bywydau, felly mae cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru o'r pwys mwyaf i ni fel Grŵp er mwyn helpu'r elusen mewn rhyw ffordd i barhau i roi gofal critigol i gleifion ledled Cymru.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru, Katie Macro: “Diolch yn fawr iawn i Owens Group UK am ei gefnogaeth barhaus i'n helusen sy'n achub bywydau. Bydd rhodd fel yr un hon yn ein helpu i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Mae Owens Group UK wedi parhau i ddangos cefnogaeth ardderchog i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau – mae'r trelar yn hoelio sylw pawb ac yn parhau i godi ymwybyddiaeth o elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch o waelod calon!”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.