Mae Côr yng Nghil-y-coed wedi codi £2,375 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a heriau rhithwir.

Roedd rhai o'r digwyddiadau codi arian a gynhaliwyd gan Gôr Meibion Caldicot yn cynnwys taith gerdded noddedig 17 milltir o Gastell Cas-gwent i Allteuryn a diwrnodau golff a welodd 30 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn ddiweddar.

Dywedodd Tony Griffiths, trefnydd digwyddiadau elusennol y côr, y bu hi'n anodd trefnu digwyddiadau oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ond llwyddwyd i godi'r swm hwn trwy ddiwrnodau golff, teithiau cerdded, digwyddiadau beicio a rhedeg a hyd yn oed heriau rhithwir.

Nid yw codi arian i elusennau'n beth dieithr i Gôr Meibion Caldicot, gan eu bod wedi codi oddeutu £50,000 i elusennau lleol a chenedlaethol dros y 10 mlynedd diwethaf trwy gynnal digwyddiadau gwahanol yn ogystal â'u cyngherddau.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Roedd y côr yn falch o gyflwyno siec i Wendy McManus, Swyddog Codi Arian Cymunedol yr Elusen, yn ddiweddar. Gyda Chymorth Rhodd, bydd y swm o £2,375 a roddwyd i'r elusen yn codi eto.

Dywedodd: "Diolch yn fawr iawn i holl aelodau Côr Meibion Caldicot am eu gwaith codi arian gwych mewn cyfnod heriol. Mae'r côr wedi codi swm anhygoel o £2,375 ac rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd hwn. Mae'r Elusen wir yn gwerthfawrogi eich cymorth i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau ledled Cymru.”

Flwyddyn nesaf, bydd Côr Meibion Caldicot yn codi arian i 'Ready Steady Go', sef elusen leol yn Y Gwndy sy'n cefnogi anghenion plant awtistig.

Am ragor o wybodaeth am Gôr Meibion Caldicot, ewch i www.caldicotmalevoicechoir.co.uk

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.