Mae côr llwyddiannus o Lanelli wedi cyflwyno siec o £6,677 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl ei henwebu fel elusen y flwyddyn.

Mae Côr Curiad yn hen gyfarwydd â chodi arian i elusennau. Ers i'w gyfarwyddwr cerddorol Alex Esney gymryd yr awenau yn 1996/97, mae'r menywod wedi codi mwy na £105,000 i elusennau. Ymhlith yr achosion da sydd wedi elwa ar eu digwyddiadau codi arian hael mae Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau, Marie Curie, Hosbis Tŷ Bryngwyn, ac uned canser y fron yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae'r côr, sy'n cynnwys 46 o fenywod ac un dyn, sef y cyfeilydd Craig Oldham a'r cyfarwyddwr cerdd Alex, yn croesawu pobl o bob oed. Mae'r aelod ieuengaf yn ei hugeiniau a'r hynaf yn 91. Mae mamau, merched a chwiorydd yn canu gyda'i gilydd yng Nghôr Curiad. Mae rhai aelodau yn byw y tu allan i Gymru hyd yn oed.

Dywedodd llefarydd y côr, Pat Hogson: “Nawr bod rheolau COVID-19 wedi dechrau llacio ychydig, rydym wedi gallu dechrau cynnal mwy o ddigwyddiadau awyr agored ond bydd yn braf iawn cael dychwelyd i'r normal 'newydd' a gwneud yr hyn rydyn ni'n ei garu fwyaf - canu a diddanu pobl a dechrau codi arian i elusennau eto.

“Rydyn ni'n llwyddo i wneud cymaint i elusennau oherwydd cymorth gwych ein teuluoedd a'n ffrindiau a grŵp cadarn o gefnogwyr sy'n dod i gefnogi pob digwyddiad.”

Mae Pat yn disgrifio cerddoriaeth y côr fel 'mor amrywiol â'r ystod oedran'. Maent yn canu darnau Cymraeg a Saesneg traddodiadol fel Bohemian Rhapsody, caneuon Disney, Lord of the Rings, Snow Patrol, Abba ac Adele.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Y llynedd, cynhaliodd y menywod eu cyngerdd Nadolig rhithwir cyntaf, er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Bu'n llwyddiant ysgubol.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i bawb yng Nghôr Curiad sydd, er gwaethaf yr heriau y mae COVID-19 wedi'u cyflwyno, wedi dod o hyd i ffyrdd o godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Mae pob rhodd yn hanfodol ac yn cyfrannu at gadw ein hofrenyddion yn yr awyr - i bobl Cymru, pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch i gefnogwyr, ffrindiau a theulu'r côr sy'n parhau i gefnogi a mwynhau'r digwyddiadau elusennol.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.