Mae cyflenwr coffi yng ngorllewin Cymru wedi codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru drwy werthu ei goffi Cymreig ei hun.  

Sefydlwyd Coffi Teifi, sef cwmni elusennol gwerthu coffi, yn Llandysul gan yr entrepreneur Chris Snarski yn 2018. Gyda chefndir mewn busnes a chariad at fwyd a diod o ansawdd uchel, gwnaeth Chris achub ar y cyfle i sefydlu ei gwmni coffi ei hun. 

Wrth siarad am Goffi Teifi, dywedodd Chris:  "Sefydlwyd y cwmni gyda'r nod o ddarparu coffi blasus, ffres i fusnesau a chartrefi Cymru, ynghyd â meithrin moeseg gymunedol gadarn drwy godi arian ar gyfer nifer o elusennau ar yr un pryd. 

"Yn gyflym iawn penderfynais y byddai'r swm hael o 50c fesul kilo yn addas. Er nad yw hyn yn swnio'n uchel iawn o bosibl, mae caffi prysur yn defnyddio 15kg o goffi ar gyfartaledd bob wythnos. Gall hyn olygu enillion sylweddol ar gyfer yr elusennau dan sylw." 

Cafodd achosion elusennol eu henwebu gan gwsmeriaid masnachol, ac mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ddewis poblogaidd ymysg nifer o fasnachwyr sy'n stocio'r coffi Cymreig traddodiadol hwn. 

Un o'r cwsmeriaid masnachol hyn a enwebodd Ambiwlans Awyr Cymru oedd Pethau Da yng Nghaerfyrddin. Dywedodd Steve Ballett, cyfarwyddwr y caffi: "Mae'n bleser mawr gennym allu cefnogi elusen mor bwysig drwy ein cytundeb â Choffi Teifi. Agorodd Pethau Da ei ddrysau ar Stryd Mansel yn 2017 ac erbyn hyn rydyn ni ar agor bob dydd ac ar y penwythnos. 

"Cwmni lleol cyfeillgar Cymreig ydyn ni, sy'n mwynhau darparu bwyd cartref o'r safon uchaf. Rydyn ni'n paratoi popeth yma yn y caffi gan ddefnyddio cynnyrch a chynhwysion lleol. Mae'n deimlad gwych i allu rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a chefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gyda'n rhodd o £271.32." 

Cwsmer masnachol arall a enwebodd Ambiwlans Awyr Cymru oedd Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin. Drwy eu hymdrechion codwyd £290.23 ar ben hynny. 

Yn ogystal â'r rhodd o 50c y kilo, gwnaeth Coffi Teifi ei hun gynnig enw Ambiwlans Awyr Cymru hefyd fel un o'i 'Ddeg Teifi'. 

Dywedodd Chris: "Yn ogystal â'n cwsmeriaid masnachol, bydd pecynnau llai sy'n cael eu prynu drwy siopau a busnesau hefyd yn cyfrannu tuag at ein 'Deg Teifi'. Deg elusen yw'r rhain a enwebir gennym a fydd yn cael cyfran o'r arian a godir drwy werthu ein coffi. Gwnaethom benderfynu bod Ambiwlans Awyr Cymru yn haeddu cael yr arian ac mae'n bleser gallu ei chefnogi." 

Dywedodd Rob Coles, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch o galon i Chris yng Nghoffi Teifi a phawb yng nghaffi Pethau Da am eu cefnogaeth. Mae'n wych gweld coffi lleol Cymreig yn cefnogi elusennau sydd o fudd uniongyrchol i bobl ein gwlad. Bydd haelioni pawb sy'n cymryd rhan yn sicrhau y gallwn barhau i hedfan er mwyn achub bywydau ledled Cymru. Hoffem hefyd ddiolch i fusnesau lleol eraill ledled de a chanolbarth Cymru sy'n gwerthu'r coffi ac yn rhoi canran o'r elw i ni."