Mae 20 o aelodau o swyddogion gwarantedig ac Ystafell y Rhingylliaid 14 Catrawd y Signalau (Rhyfela Electronig) wedi cwblhau diwrnod llethol o 20 o weithgareddau corfforol i godi £636 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwnaethant osod yr her iddynt eu hunain, a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, i gyflawni 18 o ymarferion cylchol 20 o weithiau, cyn seiclo 20km a rhedeg 20km yn dilyn hynny.

Cymerodd y gatrawd ran yn her Fy20 Ambiwlans Awyr Cymru, sef ymgyrch codi arian arbennig a grëwyd i ddathlu pen-blwydd yr Elusen yn 20 oed.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, creodd yr elusen ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Roedd Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain a oedd yn ymwneud â'r rhif ‘20’ yr oedd yn rhaid ei gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Cynhaliwyd her Fy20 y Gatrawd ar y maes awyr segur ym Marics Cawdor, ym Mreudeth. Daeth y tîm ddod o hyd i amser rhwng cyfarfodydd ac ymrwymiadau eraill i wneud yn siŵr bod pob un o 20 aelod yn cael amser i gwblhau pob un o'r 20 o weithgareddau.

Dechreuodd y rhan fwyaf o'r tîm yr her epig gyda'r ymarferion cylchol. Ymhlith yr 18 ymarfer cylchol a gwblhawyd roedd gwasgau byrfraich, rhagwthion, cyrcydiadau, neidiau cwrcwd a neidiau gwasg.

Ar ôl cwblhau'r ymarferion cylchol, gwisgodd y tîm eu helmedi seiclo a dechrau'r daith feic 20 cilometr.

Er gwaethaf cyflymder isel y gwynt, bu'n rhaid i'r tîm ymdrechu'n galed o bryd i'w gilydd am eu bod yn seiclo ar faes glanio agored.

Wrth baratoi ar gyfer y daith feicio, roedd y llwybr wedi'i farcio'n glir ac roedd map wedi'i ddarparu ar ddechrau'r her hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gatrawd yn llawn balchder: “Aeth ein her yn dda iawn. Y rhan olaf oedd rhedeg 20k o gwmpas yr un maes awyr roeddem newydd seiclo o'i gwmpas, ond drwy ddilyn llwybr gwahanol. Erbyn hyn, roedd yn braf cael dod oddi ar y beiciau. Fodd bynnag, i rai ohonom, cymerodd dipyn o amser i'n coesau addasu a symud yn hwylus. Gan fod lefelau ffitrwydd pobl yn wahanol, roeddem wedi'n gwasgaru dros y llwybr cyfan, ond gweithiodd pawb yn galed a llwyddodd rhai ohonom i dorri record bersonol.

“Erbyn diwedd y dydd, roedd pob un ohonom yn hapus iawn gyda'r hyn roeddem wedi'i gyflawni ac yn falch ein bod wedi llwyddo i godi arian i elusen mor wych.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Sôn am ffordd o ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed! Yn sicr, roedd y tîm wedi dewis her epig na chaiff ei hanghofio. Diolch i bob un ohonynt a phawb sydd wedi rhoi arian i'w ymgyrch codi arian Fy20. Bydd eich cymorth yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr 24/7.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r Gatrawd drwy noddi'r tîm ar ei dudalen Just Giving - 14 SR WOs & Sgts Mess My 20 Challenge