25/06/2020

Er nad yw'r canwr theatr gerddorol ac opera o Gymru, John Ieuan Jones, wedi gallu perfformio mewn cyngherddau yng Nghanada, bydd yn cynnal cyngerdd arall i godi arian i elusennau.   

Bydd John Ieuan yn cynnal ei drydedd gyngerdd fyw ar-lein o'i gartref ddydd Gwener 26 Mehefin i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ataxia UK, dwy elusen sy'n agos i'w galon.

Cyn y pandemig, roedd y canwr o Landrillo-yn-Rhos yn bwriadu perfformio yng Nghanada ac roedd ar fin dechrau contract yn Grange Park Opera yn Surrey.

Mae ei dalent wedi arwain at gyfleoedd i berfformio ledled y byd, gan gynnwys mewn lleoliadau megis Neuadd Bridgewater, Canolfan y Mileniwm a Neuadd Frenhinol Albert, ac enillodd wobr bwysig y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru – sef Ysgoloriaeth Towyn Roberts.   

Yn ystod y cyfyngiadau symud, bu ei ddwy gyngerdd ddiwethaf i godi arian i elusennau yn llwyddiannus iawn. Mae wedi codi dros £8,000 i Sefydliad DPJ, Mind, Hosbis Plant Hope House a Hosbis Dewi Sant.

Dywedodd y canwr opera nad oedd yn gwybod beth i'w ddisgwyl o ran faint o bobl a fyddai'n gwylio ei gyngherddau, ond ei fod wedi cael ei siomi ar yr ochr orau wrth lwyddo i ddenu cyfartaledd o 600 o bobl i wylio ei gyngerdd fyw ddiwethaf, a oedd yn cynnwys un o Noddwyr Ambiwlans Awyr Cymru, Syr Bryn Terfel. Mae 13,000 o bobl wedi gwylio'r gyngerdd erbyn hyn.

Graddiodd John Ieuan o'r Royal Northern College of Music yr haf diwethaf gyda rhagoriaeth yn ei radd Meistr. Dywedodd: “Dyma fydd fy nhrydedd cyngerdd ar-lein. Llwyddodd y gyngerdd gyntaf i godi bron i £4,000 a chododd y gyngerdd ddiwethaf ymhell dros £4,000, sy'n wych. Rwyf wir yn gobeithio y bydd y gyngerdd hon yn llwyddo i godi'r un faint.  Ni allaf ddiolch ddigon i bobl.”

Bydd ei gyngherddau yn cynnwys rhywbeth i bawb ac efallai y bydd ambell i westai arbennig yn ymuno ag ef ar ffurf rithwir i ganu deuawd. Ond bydd yn rhaid i chi wylio er mwyn gweld hynny!

Mae gan John Ieuan reswm personol dros gefnogi'r Elusen sy'n achub bywydau. Dywedodd: ‘‘Gan fy mod yn dod o gefndir amaethyddol, rwy'n deall pwysigrwydd y gwasanaeth y mae'r Ambiwlans Awyr yn ei ddarparu i bobl ledled Cymru. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd fy nghefnder ddamwain ar fferm ym Machynlleth ac yn anffodus, mae bellach wedi'i barlysu. Fodd bynnag, heb Ambiwlans Awyr Cymru, gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth ac rydym ni fel teulu yn hynod ddiolchgar am hynny.

‘‘Yn ail, gan fod y cyfyngiadau symud yn dechrau llacio ac y bydd pobl yn ysu am gael mynd allan ac ymweld â'r ardaloedd prydferth sydd yma yng Nghymru, rwy'n ofni y bydd yr Ambiwlans Awyr unwaith eto yn wasanaeth hanfodol y bydd llawer o bobl yn dibynnu arno.’’

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru yr Elusen: ‘‘Mae'n braf clywed bod pobl fel John Ieuan yn meddwl am ffyrdd gwahanol o ddiddanu'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a'u bod hefyd yn llwyddo i godi arian ar gyfer cymaint o elusennau. Rydym yn gwerthfawrogi ei gymorth yn fawr, a gobeithio y bydd sawl person yn gwylio'r gyngerdd ac yn ei mwynhau o gysur eu cartrefi.’’

Gallwch wylio'r gyngerdd fyw am 8pm ar ei dudalen Facebook, sef John Ieuan Jones – Baritone.

Gallwch ddangos eich gwerthfawrogiad i John Ieuan Jones drwy gyfrannu ar ei dudalen Virgin Money Giving – John Ieuan Jones Online Charity Concert No.3 yma.