Bydd bachgen pedair oed dewr o Gastell-nedd yn cerdded i fyny copa uchaf De Cymru – Pen y Fan – flwyddyn ers marwolaeth ei dad er mwyn codi arian i'r Elusen a frwydrodd i achub ei fywyd.

Mae Calan-James Rees, a fydd yn cerdded i fyny'r mynydd ym Mannau Brycheiniog gyda'i fam, Gemma Lewis, ym mis Awst, wedi codi £237 hyd yn hyn er cof am ei dad, Sam Rees, a fu farw yn dilyn damwain beic modur oddi ar y ffordd yn Nhai'r-gwaith.

Roedd Sam, 26 oed, yn dad ‘cariadus, cefnogol a gofalgar’ i Calan-James, meddai Gemma: “Roedd Sam yn dad arbennig, ond roedd yn bartner cefnogol iawn hefyd a gwnaeth fy helpu i a'n mab i gyrraedd lle rydym heddiw, gwnaeth fy helpu drwy fy nyddiau anodd.”

Mae'r teulu'n gobeithio codi £1,000 ar gyfer y gwasanaeth sy'n achub bywydau a ddaeth i helpu Sam o fewn saith munud o dderbyn yr alwad.

Gan fyfyrio ar bwysigrwydd y gwasanaeth 24/7 sy'n achub bywydau, meddai Gemma: “Aeth staff Ambiwlans Awyr Cymru y tu hwnt i bob disgwyl gan roi eu hymdrech, eu cariad a'u hymroddiad anhygoel i Sam, ond yn anffodus nid oedd modd ei achub oherwydd yr anaf angheuol.

“Byddwn yn cerdded i fyny Pen y Fan er cof amdano er mwyn codi rhagor o arian ar gyfer yr elusen arbennig hon sy'n achub bywydau bob dydd! Rydym am roi rhywbeth yn ôl i'r bobl wych hyn i ddiolch am eu holl ymroddiad, cariad ac ymdrech wrth achub bywydau, a cheisio achub bywydau, bob dydd.”

Caiff y daith gerdded ei chynnal ddydd Llun, 30 Awst am 10am. Mae Gemma wedi dweud bod croeso i unrhyw un gerdded gyda nhw.

Mae Gemma yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'r ddau ohonynt wedi'i chael ers marwolaeth Sam, gan ychwanegu: “Rydym ni fel teulu wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ein teulu a'n ffrindiau, ond rydym hefyd wedi cael cefnogaeth arbennig gan y gymuned, yn ogystal â thîm ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r teulu cyfan am roi rhywbeth yn ôl i ddiolch am yr holl gefnogaeth garedig rydym wedi'i chael ers i ni golli Sam.

“Rwyf hefyd am ddiolch yn fawr i'n holl gefnogwyr ardderchog sydd wedi ein cefnogi ni ac sy'n parhau i gefnogi ein hymgyrch codi arian. Mae pob un ohonoch mor ystyriol a charedig. Mae cyfraniad bach yn help mawr i ni, ac rydym am ddiolch i'r gymuned ac i'r bobl wych hynny sydd wedi rhoi arian.”

Mae'r disgybl o Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen, sy'n arbennig o gryf yn ôl ei fam, yn teimlo'n gyffrous ond hefyd yn nerfus am gerdded i fyny Pen y Fan gyda'i fam.

Dywedodd ei fam falch, Gemma: “Mae Calan yn arbennig o gryf ac mae wrth ei fodd yn ein helpu i osod nodau; mae'n ein helpu drwy geisio cwblhau pob math o heriau. Ar y diwrnod, byddwn yno i'w gefnogi mewn unrhyw ffordd. Rydym yn gobeithio codi £1,000 er cof am ei dad i helpu Ambiwlans Awyr Cymru i achub mwy o fywydau ledled Cymru a helpu pobl sydd mewn angen!”

Dywedodd Elin Murphy, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Diolch yn fawr iawn i Calan-James a Gemma sy'n benderfynol o godi arian i'r Elusen a geisiodd achub fywyd Sam, er gwaethaf eu profiad torcalonnus. Bydd yr hyn y maent yn ei wneud, a'r arian y maent yn ei godi, yn ein helpu i gefnogi pobl eraill sydd mewn angen. Dim ond pedair oed yw Calan-James a bydd yn cerdded i fyny'r copa uchaf yn Ne Cymru flwyddyn ers marwolaeth ei dad er mwyn codi arian mawr ei angen ar gyfer yr Elusen, ac mae hynny'n anhygoel. Pob lwc gyda'r daith gerdded.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.          

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.