Mae Bysiau Arriva Cymru wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen y flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, cododd y cwmni bysiau swm syfrdanol o £1,000 i'r elusen yn ystod 2020. Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau codi arian ymhlith y staff yn ystod misoedd yr haf a'r hydref.

Mae Bysiau Arriva Cymru wedi rhoi £1,000 ychwanegol i Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiweddar. Mae'r cwmni wedi bod yn gefnogol iawn o ymgyrch codi arian yr elusen ac wedi rhoi posteri codi arian Fy20 i ddathlu pen-blwydd yr Elusen ar ei fysiau.

Dywedodd lleferydd ar ran Bysiau Arriva Cymru: “Mae'n bleser gan Bysiau Arriva Cymru gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru fel ei elusen y flwyddyn. Mae'r gwaith a wneir yn hanfodol i ddarparu gofal critigol i bobl lle bynnag y maent yng Ngogledd Cymru. Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn rhoi £1,000 ychwanegol er mwyn helpu i ariannu a chefnogi'r gwaith gwych y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud.”

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth, dri mis ar ôl iddi lwyddo i wireddu ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Dywedodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y gogledd: “Diolch yn fawr i Bysiau Arriva Cymru am eich cefnogaeth werthfawr. Rydym wrth ein bodd bod y cwmni wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen y flwyddyn ar gyfer 2020, ac yn ddiolchgar iawn y bydd Bysiau Arriva Cymru yn parhau i gefnogi ein helusen sy'n achub bywydau 20 mlynedd ers ei sefydlu. Diolch am roi £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru; mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.