Mae cynorthwyydd meithrin 21 oed o Bowys yn mynd i fyny i'r awyr o'r diwedd – ddwy flynedd yn ddiweddarach na'r bwriad – er cof am ei chefnder, Casey Breese, ei chyfnither Kelly Breese, a'u tad Nick. 

Mae Ffion Jones newydd gyrraedd ei tharged o godi £10,000 i ddwy elusen sy'n bwysig iawn iddi – Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Alder Hey, yn Lerpwl.

Yn ogystal â rhoddion gan ffrindiau a theulu, mae Ffion wedi trefnu nosweithiau cwis, prynhawn coctels, stondinau cacennau, digwyddiad pacio bagiau elusennol a digwyddiad gwisg ffansi yn y gwaith gyda'r plant.

Yn 2011, bu farw Casey Breese yn 12 oed pan syrthiodd postyn gôl ar ei ben pan oedd yn chwarae gyda'i ffrindiau.

Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Casey, bu farw Kelly, ei chwaer fawr, yn drasig yn 18 oed pan aeth y car roedd yn ei gyrru i mewn i goeden. Ddwy flynedd yn ôl, bu'r teulu'n galaru eto yn dilyn marwolaeth sydyn Nick, tad Casey a Kelly.

Ers iddi fod yn ifanc iawn, roedd Ffion o Gaersws, wedi bod eisiau nenblymio ond roedd am gael rheswm dros wneud hynny. Dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sydd bob amser wedi bod yn bwysig i fi a'm teulu. Roedd fy nghefnder mewn damwain drasig lle syrthiodd postyn gôl ar ei ben a'i wasgu. Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a gwnaethant ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Amwythig ond, yn anffodus, bu farw yn fuan ar ôl iddo gyrraedd. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl, ac felly rwyf am godi cymaint o arian â phosibl i Ambiwlans Awyr Cymru.” 

“Roedd hyn yn newyddion ofnadwy i ni gyd fel teulu, ac i'w ffrindiau. Bydd colled fawr ar eu hôl ond byddwn yn cofio amdanynt am byth”,  ychwanegodd Ffion.

O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, mae Ffion, a oedd i fod i nenblymio yn 2020 a'r llynedd, wedi aildrefnu'r nenblymiad ym Maes Awyr Abertawe ar gyfer dydd Sul, 15 Mai.

Mae Ffion yn benderfynol iawn, ac mae wrth ei bodd ei bod wedi codi £9,500. Dywedodd: Rwy'n croesi bysedd y bydd y dywediad tri chynnig i Gymro yn wir y tro hwn, ac y bydd y nenblymiad yn digwydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at nenblymio, a dw i ddim yn teimlo'n nerfus ar hyn o bryd. Mae fy nheulu a'm ffrindiau yn meddwl fy mod i'n hollol wallgof. Dywedodd un aelod o'r teulu na fyddai ‘byth bythoedd’ yn nenblymio.

“Rydw i wedi codi tua £9,500 a byddwn wrth fy modd yn cyrraedd fy nharged newydd o £10,000.”

Mae Ffion hefyd yn codi arian i Ysbyty Plant Alder Hey ar ôl i'r ysbyty achub bywyd ei ffrind agos, Willow.

Ychwanegodd Ffion: “Byddaf yn nenblymio er cof am fy nghefnder a'm cyfnither ac am fy wncwl. Byddaf yn nenblymio i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gan ei bod yn elusen bwysig iawn i mi. Byddaf hefyd yn codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl am achub bywyd fy ffrind agos Willow.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Ffion yn cael cyfle o'r diwedd i fynd i fyny i'r awyr er mwyn codi arian i ddwy elusen sy'n bwysig iawn iddi. Er yr holl dristwch a wynebwyd gan y teulu, mae Ffion wedi penderfynu neidio allan o awyren er cof am ei chefnder, ei chyfnither a'i wncwl i godi arian ar gyfer elusen. Am deyrnged hyfryd er cof am ei hanwyliaid.

“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi i ymgyrch codi arian Ffion - a diolch o galon i Ffion. Rydym yn gwerthfawrogi dy gefnogaeth i'n helusen achub bywydau yn fawr, rwyt ti wedi codi swm anhygoel o arian i Ambiwlans Awyr Cymru a dylet ti fod yn falch iawn ohonot ti dy hun. Bydd ymdrechion codi arian fel un Ffion yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Pob lwc Ffion. Gobeithio y byddi di'n mwynhau nenblymio.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Ffion drwy ei noddi drwy ei thudalen Go Fund Me.