Mae 'Art in Penallt', sydd eisoes wedi codi dros £10,000 i achosion elusennol eleni, yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Banc Bwyd Ardal Trefynwy. 

Mae'r sioe gelf flynyddol, a gynhelir yn Humble by Nature, ar gyrion pentref Penallt, yn gobeithio denu tua 1,000 o ymwelwyr.

Hon fydd y degfed blwyddyn i'r digwyddiad llwyddiannus gael ei gynnal - cafodd yr arddangosfa ei chanslo y llynedd o ganlyniad i'r pandemig.

Mae artistiaid, gwneuthurwyr, ac ymwelwyr o bell bellach yn cydnabod 'Art in Penallt' fel digwyddiad sy'n denu arddangoswyr o bob math bob blwyddyn, yn ogystal â ffefrynnau sefydledig fel ei noddwyr, y crochenydd Walter Keeler a'r artist Richard Wills.

Menter ‘nid er elw’ yw Art in Penallt, a gynhelir gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr lleol.

Wrth feddwl am y rheswm pam y bydd 50 y cant o'r elw dros ben yn cael ei roi i'r elusen sy'n achub bywydau, dywedodd llefarydd ar ran 'Art in Penallt': “Bob blwyddyn mae pwyllgor 'Art in Penallt' yn cytuno ar elusennau i gyfrannu atynt, sy'n canolbwyntio ar yr ardal leol gan amlaf.  Roeddem yn unfrydol wrth gytuno i gefnogi'r gwaith a wneir gan Ambiwlans Awyr Cymru i achub bywydau, sydd o fudd i'r ardal leol a'r gymuned ehangach yng Nghymru. Mae'n hanfodol cael gwasanaeth a all ddarparu gofal critigol pan fo angen ledled Cymru, gan ymateb yn gyflym lle bo angen.”

Cynhelir yr arddangosfa ar benwythnos gŵyl y banc – 28-30 Awst. Bydd mynediad yn costio £3 a mynediad am ddim i blant o dan 16 oed.

Yn Humble by Nature, mae Kate Humble a Ludo Graham wedi sefydlu canolfan sgiliau gwledig ffyniannus ar fferm weithio gyda chyfleusterau rhagorol.

Yng nghanol y safle mae hen ysgubor hardd a fydd yn gartref i'r arddangosfa gelf gain, a bydd amrywiaeth o stondinau ac arddangosiadau gan artistiaid a gwneuthurwyr ar gael mewn adeiladau eraill ar y safle, ochr yn ochr â bistro'r Pig and Apple a fydd yn gweini lluniaeth drwy'r penwythnos.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd Wendy McManus, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i dîm gwirfoddoli 'Art in Penallt'. Mae codi dros £10,000 i achosion da yn glodwiw iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn bod y tîm wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'i elusennau eleni a fydd yn cael budd o'i arddangosfa. Gobeithio y bydd y cyhoedd yn mwynhau ymweld ag 'Art in Penallt' fis nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.artinpenallt.org.uk

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.