Mae bachgen ysgol dewr pum mlwydd oed wedi rhoi siec o dros £1,800 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei dad a fu farw y llynedd.

Dringodd Calan-James Rees, o Rydaman, Ben y Fan flwyddyn i'r diwrnod ers i'w dad, Sam Rees, farw ym mis Awst. Bu farw Sam yn dilyn damwain beic modur oddi ar y ffordd ym mhentref Tairgwaith.

Dringodd y disgybl o Ysgol Gwaun Cae Gurwen, yng nghwmni ei fam, Gemma Lewis, a thua 30 o aelodau o'r teulu, i gopa uchaf De Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.       Cwblhaodd Calan-James hyn mewn awr a 21 munud er budd yr elusen. 

Yn gwmni i'r teulu ar eu taith i fyny Pen y Fan roedd tedi bêr atgofion Sam, a gafodd ei wneud o byjamas Sam, sy'n cynnwys rhywfaint o'i ludw ym mol y tedi.

Roedd Calan-James yn falch o gyflwyno'r siec i'r elusen yn ystod ymweliad diweddar â'r orsaf awyr ym mhencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Llanelli. Gwnaeth Rachel, sef modryb Calan-James a'i gefnder Koby, ymuno â nhw hefyd.

Dywedodd Gemma: "Roeddem wrth ein bodd i ymweld â'r orsaf awyr a wnaeth agor ein llygaid i ymroddiad, cariad a chefnogaeth anghygoel ein harwyr i bob claf mewn angen. Gwnaethom fwynhau ein diwrnod yno yn fawr, ac nid yw ein harwyr yn cael digon o glod am eu gwaith, a diolch o waelod calon iddynt.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am holl gefnogaeth a chariad ein cymuned a wnaeth ein helpu i godi'r arian at achos gwych!"

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dangosodd Ysgol  Gwaun  Cae  Gurwen  ei chefnogaeth hefyd i'w disgybl Calan-James drwy godi £100 tuag at ei ymgyrch codi arian drwy gynnal taith gerdded noddedig fewnol o amgylch yr ysgol. 

Dywedodd Katie Macro, rheolwr ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Calan-James a Gemma wedi codi swm anhygoel o £1,879 i'r elusen er cof am dad a phartner annwyl. Er gwaetha'r boen i'r teulu, roeddent am helpu i godi arian fel y gallai ein meddygon fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen ni arnynt fwyaf, ac mae hynny'n ysbrydoledig. Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd hon gan y teulu. Mae Calan-James yn fachgen hyfryd, a dylai fod yn hynod falch o'r hyn y mae wedi ei gyflawni ac yntau mor ifanc."

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.