Mae athrawes ysgol wedi codi £1,300 i elusen sy'n achub bywydau ar ôl i'w brawd orfod galw am ei help yn dilyn damwain a arweiniodd at golli un o'i ddwylo.

Cymerodd Gill Wright o Mexborough, De Swydd Efrog, ran yn nigwyddiad codi arian Ambiwlans Awyr Cymru Fy20 ar ôl i'r Elusen gludo ei brawd mewn hofrennydd o Wrecsam i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ym mis Chwefror.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, creodd yr elusen ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Roedd Fy20 yn rhoi cyfle i gyfranogwyr osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain yn gysylltiedig â'r rhif ‘20’ i'w gwblhau dros gyfnod o fis.

Collodd Chris Wright, brawd Gill, un o'i ddwylo mewn damwain ddiwydiannol erchyll. Cafodd ei gludo yn syth gan dîm gofal critigol Ambiwlans Awyr Cymru i'r ganolfan trawma mawr agosaf yn Stoke i gael asesiadau pellach. Gwnaeth y tîm aros gydag ef wedyn i gael cadarnhad bod angen ei drosglwyddo i ofal llawfeddyg dwylo arbenigol yn Derby.

Aeth y tîm ati wedyn i'w gludo'n uniongyrchol i ganolfan arbenigol gofal y dwylo yn Derby er mwyn cael llawdriniaeth gritigol o ran amser i ailgysylltu ei law. Cafodd ei law ei hailgysylltu'n llwyddiannus mewn llawdriniaeth a barodd 11.5 awr.

Er bod Gill yn dioddef nifer o broblemau iechyd ei hun, roedd yn benderfynol o gerdded milltir y dydd gyda chymorth ei mam a'i chydweithwyr.

Roedd yr athrawes o Ysgol Pennine View yn Conisborough, De Swydd Efrog, yn awyddus i ymgymryd â'r her er gwaethaf ei phoen ei hun.

Dywedodd ei brawd diolchgar, Chris: “Aeth Gill ati i gwblhau her anhygoel i'r elusen. Mae Gill yn dioddef o Enseffalomyelitis Myalgig, sy'n cael effaith enfawr ar ei bywyd bob dydd fel athrawes anghenion arbennig. Mae'n gorfod defnyddio baglau i gerdded ar hyn o bryd am ei bod yn aros am lawdriniaeth i gael dau ben-glin newydd, ac mae arthritis ganddi ar yr asgwrn cefn sy'n achosi poen cronig.”

Cymerodd y plant yn yr ysgol ddiddordeb mawr yn yr her, felly soniodd Gill wrthynt am Ambiwlans Awyr Cymru a'i waith yn cludo pobl i'r ysbyty'n gyflym.

Cafodd y plant hwyl yn tynnu llawer o luniau, yn cerdded gyda'u hathrawes ac yn cymryd rhan mewn her i weld faint o lapiau o drac yr ysgol y gallent eu cwblhau. Aeth sawl un o'i chydweithwyr ati i noddi Gill hefyd, gan ymuno â hi ar gyfer ei hanner milltir olaf.

Dywedodd Dougie Bancroft, cydlynydd codi arian cymunedol yr Elusen: “Diolch o galon i Gill am gymryd rhan yn ein her Fy20. Er gwaethaf y boen mae'n ei ddioddef bob dydd, roedd yn benderfynol o godi arian i'n Helusen a helpodd ei brawd Chris yn ddiweddar, ac mae hynny'n ysbrydoliaeth. Rydym wrth ein bodd o glywed bod y disgyblion yn ei hysgol yn awyddus i ddysgu am ei helusen sy'n achub bywydau, a hefyd eu bod wedi cymryd rhan yn yr her gyda'i hathrawes. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Gill a'i helpu i godi'r swm anhygoel o £1,300 i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.