Mae athletwr o Fryste yn mynd i America i gymryd rhan yn y World’s Toughest Mudder i godi arian i'r elusen a helpodd i achub bywyd ei dad-cu ddwywaith.

Bydd Tom Nicholas, sy'n 28 oed ac yn byw yn Stroud, Swydd Gaerloyw gyda'i ddyweddi, Jasmine, yn hedfan i Fflorida i gymryd rhan yn yr her eithaf 24 awr o hyd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol yn Alabama ar 12 Tachwedd i helpu Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r digwyddiad, a gaiff ei adnabod fel “yr her ras rwystrau 24 awr o hyd anoddaf, sydd fwyaf brawychus ac yn cyflymu curiad y galon ar y blaned,” yn cynnwys cwblhau cynifer o lapiau 5 milltir, sydd â 15 o rwystrau i bob lap ar gyfartaledd, o fewn cyfnod o 24 awr. Mae'r rhwystrau yn cynnwys rhai arferol y Tough Mudder, sef dringo drwy sgip llawn iâ, rhedeg drwy wifrau trydan, bariau mwnci a dringo ysgol wrth i ddŵr rhewllyd gael ei arllwys ar y cystadleuwyr.

Mae Tom, sy'n gweithio fel ymgynghorydd i gwmni cyllid, wedi cymryd rhan mewn mwy na 35 o ddigwyddiadau Tough Mudder ers cofrestru ar gyfer ei her gyntaf yn 2015, a dywedodd mai ei nod yw cymryd rhan yn y World Toughest Mudder.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod wrth fy modd gyda'r Tough Mudder ers cymryd rhan yn fy ras leol gyntaf ac wedi cwblhau sawl digwyddiad drwy'r blynyddoedd ers hynny. Mae'r World’s Toughest Mudder wedi bod yn her ar fy 'rhestr ddymuniadau' ers peth amser a bydd yn cymryd llawer o gryfder meddyliol a gwytnwch corfforol i barhau am gyfnod o 24 awr.

“Fy nharged yw cwblhau 10 lap, a fydd yn gyfanswm o 50 o filltiroedd, mewn cyfnod o 24 awr. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu cyflawni hyn. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr adrenalin yn fy helpu i ddod drwy'r her.”

Gosododd Tom her enfawr iddo'i hun i gwblhau pedwar gweithgaredd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru gan fod yr Elusen yn agos at galonnau aelodau o'i deulu a'i galon yntau.

Roedd angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru ar ei dad-cu, Godfrey Dobbins, wedi iddo gael ei daro'n wael yn 2013, ac unwaith eto yn 2014. Am ei fod yn byw mewn ardal wledig yn Sir Benfro, yr ambiwlans awyr oedd yr unig opsiwn i sicrhau ei fod yn cael y gofal meddygol brys roedd ei angen arno.

Dywedodd Tom “Ni fyddai fy nhad-cu wedi goroesi'r digwyddiadau hynny, oni bai am wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Rwyf i a fy nheulu yn ddiolchgar iawn i'r gwasanaeth am ei helpu a'n galluogi ni i'w gael yn ein bywydau am ychydig flynyddoedd ychwanegol, cyn y bu farw yn 2016.

“Rwyf wedi codi arian i'r Elusen ar sawl achlysur yn y gorffennol ond y tro hwn roeddwn am wneud rhywbeth ar raddfa fawr. “Cyfres Endure4” yw'r digwyddiadau mwyaf y gallwn feddwl amdanynt a fyddai'n profi fy mhenderfynoldeb meddyliol a gwytnwch corfforol yn ogystal â bod yn wahanol yn eu ffordd eu hunain.”

Mae cyfres “Endure4” Tom yn cynnwys Spartan Ultra yn yr Alban, ras rhwystrau sy'n cynnwys 30 o filltiroedd a 60 o rwystrau, a gwblhaodd ym mis Medi mewn 9 awr a 30 munud, gan guro ei amser o'r flwyddyn flaenorol o 30 munud; Ironman Cymru, sef digwyddiad Ironman cyflawn Dinbych-y-pysgod lle cafodd Tom le i gystadlu drwy'r Elusen a'i gwblhau ym mis Medi mewn 15 awr a 21 munud; y World’s Toughest Mudder; ac ym mis Mehefin 2023, mae Tom yn bwriadu dringo'r mynydd uchaf sy'n sefyll ar ei ben ei hun yn Affrica, sef Kilimanjaro.

Mae Tom, a raddiodd o Brifysgol De Cymru, wedi codi mwy na £6,300 hyd yma yn ystod ei ymgyrch diweddaraf, sy'n golygu ei fod wedi casglu dros £10,000, gan gynnwys cymorth rhodd, ar gyfer yr Elusen dros y blynyddoedd.

Dywedodd Tom “Mae fy nheulu wedi bod yn gefnogol iawn, yn enwedig fy nyweddi Jasmine. Mae'r amser rwyf wedi'i dreulio yn hyfforddi, yn enwedig ar gyfer Ironman Cymru, wedi golygu bod fy ffordd o fyw wedi newid yn llwyr. Roeddwn am ddod â fy nghyfnod codi arian i ben drwy gwblhau sawl digwyddiad oddi ar fy 'rhestr ddymuniadau' tra'n codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi arian ac am fy nghefnogi yn ystod y digwyddiadau hyn. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn gallu codi mwy na £6,300, ac mae amser o hyd i godi hyd yn oed mwy. Mae'r gefnogaeth rwyf wedi'i derbyn drwy gydol y broses hon wedi fy syfrdanu, ac yn werth y byd.”

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n darparu gwasanaeth awyr brys 24/7 hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi.

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cymryd rhan mewn un o'r digwyddiadau hyn yn gamp enfawr, ond mae cymryd rhan mewn pedair her sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol yn anhygoel. Rwyt ti wedi gosod her a hanner i ti dy hun, Tom!

“Diolch am godi dros £6,300 hyd yma i Ambiwlans Awyr Cymru a pharhau i godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau. Pob dymuniad da i ti yn y World Toughest Mudder ar 13 Tachwedd a'r heriau sydd i ddod.”

Gallwch gefnogi Tom drwy gyfrannu at ei her codi arian drwy ei dudalen Just Giving, sef 'Thomas's Endure 4 page'.