Mae cwmni dylunio graffeg ac argraffu yn Abertawe wedi cyhoeddi y byddant yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru fel ei Bartner Elusen am y ddwy flynedd nesaf. 

Mae BDP Cymru wedi ymrwymo i godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen yma, sy'n achub bywydau ac yn dibynnu ar roddion i gadw ei hofrenyddion i hedfan a'r cerbydau ymateb cyflym ar waith ledled Cymru 24/7.  

Mae'r busnes, sydd wedi'i leoli ar Heol Brynmor, yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni ac mae'n bwriadu cefnogi'r Elusen drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, digwyddiadau noddedig a chynnig cyfraddau argraffu gostyngedig. 

Mae BDP Cymru wedi gweithio'n agos gydag Ambiwlans Awyr Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, drwy weithio ar nifer o brosiectau argraffu'r Elusen. Mae hefyd yn un o bartneriaid swyddogol taith celf Castles in the Sky, digwyddiad Ambiwlans Awyr Cymru sy'n cael ei gynnal yn Abertawe yn ystod yr haf.  

Dywedodd Yasmine Grainger, Rheolwr Gwerthiant a Marchnata BDP Cymru: "Rydym wrth ein bodd i gefnogi elusen Ambiwlans Awyr Cymru am y ddwy flynedd nesaf. Rydym eisoes wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw dros y 12 mis diwethaf ar sawl prosiect, gan gynnwys bod yn bartner argraffu ar gyfer 'Castles in The Sky'. 

"Ar ddechrau'r flwyddyn, buom yn ffodus i ymweld â Phencadlys yr Elusen yn Nafen, Llanelli, a chawsom gyfle i edrych y tu mewn i'r hofrennydd a siarad ag un o'r peilotiaid, a oedd yn fwy na pharod i ateb ein cwestiynau.   

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth anhygoel ledled Cymru, gan helpu i achub bywydau a darparu cymorth brys a gofal critigol i'r cyhoedd. Fel busnes, roeddem yn teimlo'n gryf y dylem weithio gydag elusennau lleol a'u cefnogi. Mae hwn yn gyfle gwych i ni wneud hyn. 

"Bydd ein cefnogaeth yn dod mewn amryw o ffurfiau, gan gynnwys argraffu am bris gostyngedig, rhoi blwch casglu arian yn ein derbynfa ac mewn digwyddiadau busnes y byddwn yn eu mynychu. Byddwn yn helpu i gefnogi digwyddiadau y bydd yr Elusen yn eu trefnu yn ogystal â darparu rhai syniadau codi arian ein hunain. 

"Mae BDP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau dylunio graffeg ac argraffu o safon uchel yn Abertawe a'r cyffiniau ers 1953 ac eleni'n dathlu 70 mlynedd mewn busnes. Mae gan ein tîm ymroddedig, proffesiynol a chyfeillgar gyfoeth o brofiad yn y diwydiant ac maent bob amser wrth law i drafod a chynghori ar eich prosiectau dylunio ac argraffu. Rydym wedi lansio ein brand newydd yn ddiweddar, byddwn yn ei gyflwyno mewn digwyddiadau busnes a rhwydweithio amrywiol trwy gydol 2023." 

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr BDP Cymru, Stuart Davies, eisoes wedi cytuno i redeg Hanner Marathon Llanelli ym mis Medi, er budd Ambiwlans Awyr Cymru.  

Ychwanegodd Yasmine: "Byddwn yn cynnal cystadlaethau lu dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl trwy ein cylchlythyr chwarterol, sy'n mynd allan i'n cleientiaid i gyd a thrwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym dudalen Just Giving wedi'i sefydlu, felly bydd yr holl roddion yn mynd yn uniongyrchol i'r elusen. Fel tîm, edrychwn ymlaen at godi cymaint o arian ag y gallwn a rhoi ein cefnogaeth lle bynnag y bo modd trwy gydol 2023 a 2024." 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae BDP Cymru eisoes wedi dangos eu hymroddiad i'n gwasanaeth achub bywydau, gan gefnogi llawer o ddatblygiadau dros y misoedd diwethaf. Mae'r ymrwymiad yma i'n Helusen yn rhywbeth rydym yn hynod ddiolchgar amdano, ac rwy'n estyn diolch twymgalon. 

Mae llawer o ffyrdd y gall unigolion a sefydliadau gefnogi ein helusen. Mae BDP yn enghraifft wych o sut y gall busnesau gyfrannu at ein gwasanaeth achub bywydau trwy gyflenwi nwyddau a gwasanaethau am bris gostyngol, ochr yn ochr â ffyrdd traddodiadol fel gweithgareddau i godi arian. Mae'r cyfan yn ein helpu i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn mynd yn uniongyrchol i'n gwasanaeth rheng flaen, er budd pobl Cymru." 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).   

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod BDP Cymru wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu helusen am y ddwy flynedd nesaf.  

"Rydym wedi meithrin perthynas waith dda gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf a yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda nhw drwy'r holl brosiectau cyffrous rydym wedi'u cynllunio ar gyfer y flwyddyn. 

"Gallwn hefyd ddibynnu arnyn nhw i gynhyrchu ein cynnyrch argraffu a bydd eu hymrwymiad yn helpu'r Elusen yn ogystal â chodi arian hanfodol ar gyfer ein gwasanaeth achub bywydau." 

I gefnogi tudalen, Just Giving BDP Cymru, ewch i BDP Wales is fundraising for Wales Air Ambulance Charitable Trust (justgiving.com)