27/08/2020

Mae mam o Abertawe, yr oedd Ambiwlans Awyr Cymru wedi achub ei bywyd, yn dangos ei gwerthfawrogiad drwy gwblhau 150 milltir ar gyfer yr elusen.

Mae Angharad Jenkins, sy'n 28 oed o Gasllwchwr, yn gobeithio codi £500 drwy redeg neu gerdded y milltiroedd drwy gydol mis Medi – ar ôl i’r elusen achub ei bywyd 7 mlynedd yn ôl.

Ym mis Medi 2013, roedd Angharad mewn damwain pan fu'r car yr oedd hi'n teithio ynddo mewn gwrthdrawiad â lori ar tua 50mya, ar ôl i yrrwr y lori benderfynu troi ar draws y ffordd heb rybudd ymlaen llaw. Digwyddodd y ddamwain ar y ffordd yn arwain o Dycroes, Rhydaman, i gylchfan Pontabraham.

Er iddi dorri esgyrn, llwyddodd Angharad (sy'n hanu o Rydaman) i adael y car a gorwedd ar ymyl gwair i aros am gymorth gyda'i ffrind.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Angharad: “Fwy na thebyg, achubodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru fy mywyd, yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd eithaf difrifol. Wrth i'm ffrind orwedd wrth fy ymyl wedi'i anafu ac yn sgrechian mewn anobaith, dechreuodd fy nghorff gau i lawr wrth i mi fynd i sioc ar ochr y ffordd.

“Llwyddodd Ambiwlans Awyr Cymru i gyrraedd y safle yn gyflym, gan roi'r gofal meddygol critigol roedd ei angen arnaf cyn i'r criw fy nghludo'n gyflym i Ysbyty Treforys lle roedd y tîm trawma anhygoel wrth law. Mae gen i anafiadau gydol oes yn sgìl y ddamwain, ac mae'r rhain wedi gadael creithiau meddyliol a chorfforol ar eu hôl.”

Mae Angharad yn disgrifio’r ddamwain fel un a roddodd iddi ‘benderfyniad heb ei debyg’. Roedd ei hanafiadau yn cynnwys pigwrn dde wedi torri, llaw chwith wedi torri, dwy asen wedi'u torri, ligamentau wedi'u rhwygo yn ei throed chwith a'i phen-glin dde, rhwygiadau dwfn a chreithio ar y penelinoedd a'r goes dde, gwaedu yn yr abdomen ac ychydig o Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Wrth feddwl am ei phenderfyniad a'i hadferiad ar ôl ei thriniaeth, ychwanegodd: “Bu'n rhaid i mi aros yn yr ysbyty am 12 diwrnod ac roedd yr adferiad yn cynnwys dau fis mewn cadair olwyn oherwydd graddau fy holl anafiadau gyda'i gilydd. Roeddwn i'n lwcus iawn. 

“Mae'r holl esgyrn sydd wedi torri wedi gwella, a dydw i ddim yn dioddef poen na ellir ei drin erbyn hyn. Yn feddyliol ac yn gorfforol, saith mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n ystyried fy hun yn gryfach nag erioed ar ôl blynyddoedd o gefnogaeth gan anwyliaid, arbenigwyr rheoli poen, gwasanaethau cwnsela, meddyginiaeth, ffisiotherapi, podiatreg ac ymyriadau seiliedig ar ymgynghorwyr.

“Felly, pa well amser i dalu nôl? Rydw i bob amser wedi bod eisiau codi arian i'r elusen.”

Dim ond y llynedd y dechreuodd Angharad, sy'n fam i un, redeg. Ychwanegodd: “Yn fy marn i, roedd yn ffordd wych o ymdopi â'r boen yn fy nhraed o ganlyniad i'r anafiadau a gefais o'r ddamwain car. Dydw i ddim yn rhedwr cyflym nac yn rhedwr pellter mawr, ond mae'n fy helpu gyda'm brwydrau bob dydd, yn gorfforol ac yn feddyliol.” 

Mae'r gweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau o Sir Gaerfyrddin yn edrych ymlaen at wthio ei hun a gweld pa ganlyniadau y gall eu cyflawni. Bydd ei phartner, Joe, ei merch tair blwydd oed, Cari a'u ci, Bailey, yn ymuno â hi ar rai o'r teithiau cerdded/rhedeg. Mae rhai o gydweithwyr Angharad, hefyd, wedi cynnig yn garedig i fynd gyda hi ar rai o’r teithiau cerdded, gan gadw pellter cymdeithasol.

Dyma’r tro cyntaf i Angharad godi arian ac roedd o'r farn y byddai’n ffordd wych o godi rhywfaint o arian i'r ‘elusen agosaf at ei chalon’.

Gallwch noddi Angharad, a fydd yn cwblhau 5 milltir y dydd ar gyfartaledd, drwy ei thudalen Just Giving Run / Walk 150 milltir, drwy gydol mis Medi.

https://www.justgiving.com/fundraising/angharad-Jenkins