13/01/2020

Heddiw (Ionawr 13), lansiodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) ei hymgyrch i ariannu gwasanaeth hofrenyddion 24 awr yn swyddogol.

Nod yr Elusen, sy'n gweithredu rhwng 8am a 8pm 7 diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd, yw ehangu ei horiau gweithredu rywbryd yn 2020.

Mae'r elusen hofrenyddion, a sefydlwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001, wedi ymateb i fwy na 30,000 o alwadau yn ystod y 19 blynedd y mae wedi gwasanaethu'r cyhoedd yng Nghymru.

Wrth siarad am y dyfodol, dywedodd Cadeirydd AAC, David Gilbert OBE: “Wrth i ni baratoi i groesawu dechrau'r degawd newydd, teimlwyd ei bod hi'n bryd cymryd y cam cyffrous nesaf i ddatblygu ein gwasanaeth. Ers 2001, rydym wedi bod yno i bobl Cymru ond rydym ond yn gweithredu 12 awr y dydd ar hyn o bryd. Gyda help y cyhoedd yng Nghymru, rydym am wireddu ein gweledigaeth i ddarparu gwasanaeth 24 awr yn 2020. 

“Er mwyn darparu ein gwasanaeth presennol, mae'n rhaid i ni godi £6.5 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gallwn barhau â'n gwaith o achub bywydau. Mae gwasanaeth 24 awr yn debygol o weld ein targed codi arian yn cynyddu i fwy na £8 miliwn bob blwyddyn. Byddwn ond yn gallu cyflawni hyn gyda help a chefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.”

Ar hyn o bryd, mae'r elusen yn gweithredu pedwar hofrennydd o ganolfannau yn Llanelli, Caerdydd, Y Trallwng a Chaernarfon.

Wrth siarad am yr ymdrechion i godi arian sydd eu hangen i gynnal gwasanaeth 24 awr, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol AAC, Angela Hughes: “Rydym yn ffodus iawn bod pobl Cymru mor hael a'u bod wedi ein cefnogi'n frwd ers i ni ddechrau. Heb gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru, yn sicr fydden ni ddim lle rydym ni heddiw. Ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU. Gyda gwasanaeth 24 awr ar y gorwel, rydym yn galw ar bobl Cymru unwaith eto er mwyn ein helpu i gyrraedd y garreg filltir anhygoel hon a'n galluogi i fod yno i'r bobl sydd ein hangen fwyaf yn ystod yr oriau tywyll.

“P'un a ydych yn unigolyn sydd am redeg hanner marathon ar ein rhan, cynnal cyngerdd elusennol, mynd i ymgyrch casglu arian mewn bwcedi, gwirfoddoli yn un o'n siopau neu helpu i ledaenu enw da Ambiwlans Awyr Cymru, bydd pob darn o gefnogaeth a roddir i ni yn ein helpu i gyrraedd ein cyfnod nesaf.

“Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid meddygol, sef ‘Meddygon Hedfan Cymru’, sydd wedi bod yn ymchwilio i'r galw y tu allan i oriau er mwyn llywio'r math o wasanaethau sydd eu hangen dros nos. Bydd y gwasanaeth yn esblygu fesul cam – nid yw'r manylion wedi'u cadarnhau eto. Gwneir cyhoeddiad am hyn maes o law.”

Ychwanegodd Angela: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen i'r gwasanaeth ond yn un rydym yn hyderus y gallwn ei gyflawni gyda chefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.”

Bydd y gwasanaeth 24/7 newydd yn cynnwys y gallu i ddarparu gwasanaeth ar y ffyrdd yn ogystal ag yn yr awyr. Fel rhagflaenydd i gyflwyno gwasanaeth 24/7, mae ‘Meddygon Hedfan Cymru’ eisoes wedi cychwyn ar eu taith ar hyd y ffyrdd dros nos mewn Cerbyd Ymateb Cyflym. Yn ystod y gaeaf y llynedd ac eto eleni, mae'r ‘Car Gofal Critigol Cyfnos’ wedi bod yn gweithredu dros benwythnosau rhwng 2pm a 2am. Cafodd ei gyflwyno er mwyn helpu'r galw cynyddol am ofal brys yn Ne Cymru a oedd dan bwysau yn ystod misoedd y gaeaf, ac yn cynnwys yr un gofal o safon adran achosion brys â'r gwasanaeth dydd. 

Yn ogystal â chynnig gofal ychwanegol i bobl Cymru a lleihau'r pwysau ar wasanaethau'r rheng flaen, mae'r ‘Car Gofal Critigol Cyfnos’ hefyd wedi darparu tystiolaeth i gadarnhau'r angen am wasanaeth ambiwlans 24/7 parhaol.

Un claf a gafodd fudd o'r ‘Gwasanaeth Cyfnos’ yw Ellie Harris. Dysgwch mwy am stori Ellie yma.