Mae'n bleser gan Castles in the Sky gyhoeddi y bydd tri busnes lleol yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yr haf hwn er mwyn helpu i gyflawni un o'r llwybrau celf mwyaf hirddisgwyliedig i ddod i Abertawe erioed.

Mae'r elusen sy'n achub bywydau yn cynnal y llwybr Wild in Art cyntaf erioed yn y ddinas, sef Castles in the Sky, menter sydd wedi dod yn llwyddiant rhyngwladol, gan godi arian elusennol drwy ei chelf gyhoeddus greadigol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Mae AGB (Ardal Gwella Busnes) Abertawe, argraffwyr sydd wedi'u lleoli yn Abertawe, sef BDP Wales ac Owens Group o Lanelli wedi cofrestru i fod yn bartneriaid swyddogol i Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Castles in the Sky.

Bydd tua 30 o gerfluniau o gestyll wedi'u haddurno'n unigryw yn cael eu gosod mewn lleoliadau amrywiol ym mhob cwr o Abertawe o fis Gorffennaf hyd at fis Medi fel rhan o un o'r digwyddiadau cyfranogaeth dorfol mwyaf i gael ei gynnal yn y ddinas erioed.

Y digwyddiad hwyl i'r teulu hwn sy'n rhad ac am ddim yw'r cyntaf o'i fath yn Abertawe a'i nod yw denu miloedd o bobl i'r ddinas yr haf hwn.

Mae AGB Abertawe wedi dangos cefnogaeth at y llwybr o'r dechrau, gan ddweud ei bod yn bleser ganddi fod yn gweithio gyda'r Elusen fel Prif Bartner.

Ers iddi gael ei sefydlu yn 2006, AGB Abertawe yw un o'r mentrau mwyaf cyffrous a gafodd ei datblygu gan gymuned fusnes y ddinas gyda'r nod o roi canol dinas Abertawe ar y map. Mae'r fenter yn cyflwyno syniadau, mentrau a buddsoddiadau allweddol yn barhaus i wneud yr ardal AGB yn lle gwell i siopa, astudio, aros, cynnal busnes ac i ymweld ag ef.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB Abertawe, ei fod yn credu y bydd y digwyddiad Castles in the Sky yn cynnig nifer o gymhellion a buddion i'r ddinas yn ogystal â dod â'r gymuned ynghyd.

Dywedodd: “Rwy'n credu mai Castles in the Sky fydd un o'r prosiectau celf mwyaf uchelgeisiol a llawn hwyl y mae'r ddinas erioed wedi ei weld. Mae'n gyfle gwych i ddod â'r ddinas ynghyd a chysylltu busnesau, artistiaid a phreswylwyr drwy bŵer creadigrwydd ac arloesedd.

“Mae AGB Abertawe yn falch o fod yn Brif Bartner Castles in the Sky. Mae nifer enfawr o gymhellion a buddion yn sgil cymryd rhan mewn prosiect mor unigryw ar y raddfa hon.”

Mae cannoedd o artistiaid wedi cyflwyno eu dyluniadau a fydd yn trawsnewid y cerfluniau gwag o gestyll yn weithiau celf ac mae busnesau, sefydliadau addysg a grwpiau cymunedol wedi bod yn awyddus i noddi eu castell eu hunain.  

Dywedodd BDP Wales, gwasanaeth argraffu a dylunio graffeg sydd wedi ei leoli yn Abertwe, ei fod yn edrych ymlaen at weld cyfoeth y dalent artistig yn yr ardal wrth i'r cestyll gael eu haddurno.  

Mae'r busnes, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni, yn edrych ymlaen at fod yn Bartner Argraffu Castles in the Sky.

Dywedodd Stuart Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr BDP Wales; “Mae BDP Wales eisoes yn gweithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru ar nifer o brosiectau argraffu, felly roedd yn bleser gennym helpu pan gawsom y cyfle i gymryd rhan mewn profiad creadigol ac ymgollol yma yn Abertawe.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen arbennig, sy'n gwasanaethu pobl ledled Cymru. Mae'n bleser gennym gefnogi'r prosiect Castles in the Sky a bod yn bartner iddo ac rydym yn edrych ymlaen at weld y dyluniadau arbennig a fydd i'w gweld o gwmpas Abertawe.”

Bydd preswylwyr ac ymwelwyr o bob oed yn archwilio'r llwybr celf sy'n para am 10 wythnos, gan ddefnyddio map pwrpasol o'r cestyll ac ap symudol. Bydd yr adnoddau hyn yn eu helpu i archwilio a chrwydro'r ddinas, wrth ganfod llefydd newydd a gwobrau a gostyngiadau cyffrous. Bydd y digwyddiad yn dod i ben gydag arwerthiant elusennol mawreddog lle y gall pobl roi cynnig ar Gastell a helpu i godi arian hanfodol i'r Elusen.

Mae'n bleser hefyd gan Ambiwlans Awyr Cymru gael un o brif gwmnïau logisteg, storio a dosbarthu'r DU, sef Owens Group, yn Bartner Logisteg ar gyfer y prosiect.

Bydd y busnes teuluol o Lanelli, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 y llynedd, yn darparu lle storio ar gyfer y cerfluniau o gestyll a bydd yn helpu i'w cludo i'r digwyddiadau ac oddi yno.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Owens Group, Ian Owen: “Rydym yn falch iawn o gael cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, sy'n ceisio codi arian i helpu'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, fel y prif noddwr logisteg.

“Lleolir pencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli, lle gwnaethom leoli ein pencadlys gwreiddiol ni hefyd am bron i 50 mlynedd. Bydd hofrenyddion yn hedfan uwch ben ein pencadlys yn aml yn y Bynie ac ein depo yn Nafen. Rydym wedi cefnogi'r elusen yn flaenorol dros y blynyddoedd.

“Fel gwasanaeth llinell flaen allweddol, rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r cymorth allweddol y mae'r meddygon yn ei roi i bobl Cymru pan mae ei angen fwyaf arnynt, bob awr o'r dydd a'r nos, ac fel elusen sy'n dibynnu ar roddion i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr yng Nghymru, rydyn ni fel cwmni lleol yn teimlo ei bod yn bwysig ei chefnogi lle bynnag y bo'n bosibl. Gobeithio y bydd y digwyddiad codi arian yn llwyddiant ysgubol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru unwaith eto.”

Mae'r llwybr Castles in the Sky yn rhan o'r prosiect Wild in Art sy'n trefnu llwybrau ledled y DU. Mae ganddo ddilynwyr brwd sy'n teithio i weld gwahanol lwybrau celf ledled y wlad.

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol gydag Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gennym weithio mewn partner gyda'r tri busnes anhygoel hyn ar gyfer ein llwybr celf gyhoeddus Castles in the Sky. Mae AGB Abertawe yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth am ardal Abertawe ynghyd â rhwydwaith cymorth gwych gan yr holl fusnesau lleol. Mae BDP Wales ac Owens Group yn gefnogwyr hirdymor o'n helusen ac mae eu gwaith hollbwysig a'u cefnogaeth barhaus i'n gwasanaeth achub bywydau allweddol yn amhrisiadwy.”

Am ragor o wybodaeth neu i noddi castell, e-bostiwch: [email protected] neu ewch i www.swanseacastles.co.uk