Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn ailagor drysau ei siop elusen yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Llun 28 Medi.

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, gorfodwyd y siop i gau ym mis Mawrth yn dilyn canllawiau'r llywodraeth.

Er mwyn ailagor ei drysau, mae'r Elusen wedi rhoi mesurau gofalus ar waith i sicrhau bod y siop yn ddiogel i gwsmeriaid wedi'r cyfyngiadau symud.

Er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel yn y siop, mae'r Elusen wedi addasu'r oriau agor fel bod modd i'r staff a'r gwirfoddolwyr lanhau'r siop yn drylwyr cyn ac ar ôl iddynt agor bob dydd.

Daw'r penderfyniad i ailagor y siop yng Nghaerdydd, sydd wedi'i lleoli ar Churchill Way, ar ôl llwyddo i ailagor y siopau yn Abertawe a Wrecsam.

Bydd y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm. 

Gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth, bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb yn y siop yng Nghaerdydd, ar wahân i'r rhai hynny sydd wedi'u heithrio rhag eu gwisgo.

Dywedodd Pennaeth Manwerthu'r Elusen, Andrew Lawton: “Rydym yn falch o allu ailagor ein siop yng nghanol dinas Caerdydd. Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau. Mae'r  tair  siop sydd wedi'u hailagor gennym yn gwneud yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd y siop yng Nghaerdydd yr un mor llwyddiannus. Rydym yn gobeithio gallu agor y siopau sy'n weddill ledled Cymru yn raddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel. Er mwyn gallu parhau i gadw'r siop ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr, yn ddiogel.”

Gofynnir i gwsmeriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system un ffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem. 

Pan fyddant yn barod i dalu, gofynnir i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedd diheintio dwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo yn lân. 

At hynny, mae'r Elusen wedi gwneud rhai newidiadau mewn perthynas â'r eitemau y gellir eu derbyn, yn ogystal â'i gwasanaeth dosbarthu. Mae'r newidiadau hynny fel a ganlyn: 

Eitemau Rhodd  – Yn anffodus, dim ond nifer cyfyngedig o eitemau y gall y siop yng Nghaerdydd eu derbyn ar hyn o bryd.   Mae hyn am fod angen cadw eitemau rhodd ar wahân am gyfnod er mwyn osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi.

Gwasanaeth Dosbarthu  – Yn anffodus, dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd.

Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl.

Ni ellir cynnig gwasanaethau casglu na dosbarthu mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau symud lleol mewn grym.