Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael mwy na £1,500 o seremoni wobrwyo yng Ngogledd Cymru ar ôl cael ei dewis fel partner elusen.

Penderfynodd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau yn eu noson wobrwyo grand, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Tachwedd y llynedd.

Mae'r seremoni yn dathlu ac yn cydnabod rhagoriaeth ym maes lletygarwch a thwristiaeth.Roedd y gwobrau, a gafodd eu cyflwyno gan y newyddiadurwraig Sian Lloyd, sy'n wreiddiol o Wrecsam, yn dangos ac yn dathlu llwyddiannau, gwaith caled ac ymrwymiad y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant.

Dechreuodd y digwyddiad tei du, sydd bellach yn ei chweched blwyddyn, gyda diodydd croesawu, ac yna cinio gala a chyflwyno'r gwobrau. Cafwyd noson o adloniant a dawnsio yn dilyn y seremoni a oedd yn cydnabod goreuon twristiaeth Gogledd Cymru.

Llwyddodd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales i godi swm anhygoel o £1,525 i Ambiwlans Awyr Cymru. Daeth yr arian o roddion gan fusnesau a oedd mewn raffl.

Dywedodd Eirlys Jones, Cyfarwyddwr Masnachol Twristiaeth Gogledd Cymru:“Roeddem wrth ein bodd yn gallu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru fel ein partner Elusen eleni. Dangosodd a dathlodd y noson lwyddiannau, gwaith caled ac ymrwymiad y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant ar draws y rhanbarth ac roedd yn fraint gallu defnyddio'r digwyddiad i godi arian i'n helusen enwebedig.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n cynnig gofal critigol ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn noson arbennig yn dathlu goreuon twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiolchgar iawn o fod wedi cael ei dewis fel eu helusen ar gyfer y seremoni wobrwyo a diolchwn i bawb a'n cefnogodd mor garedig a hael ar y noson. Bydd yr arian a godwyd yn ein galluogi i barhau i achub bywydau ledled Cymru.”