23/06/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael hwb yn ystod argyfwng y coronafeirws gyda rhodd o £1,000 gan adeiladwr tai lleol.

Cafodd yr elusen yr arian gan Persimmon Homes Gorllewin Cymru drwy gynllun Hyrwyddwyr Cymunedol ('Community Champions') llwyddiannus y cwmni. Bob mis, mae'r cwmni, a leolir ym Mhenlle'r-gaer, yn gwneud rhodd o hyd at £1,000 yr un i ddau grŵp neu unigolyn.

Mae argyfwng COVID-19 wedi effeithio ar Ambiwlans Awyr Cymru, fel llawer o elusennau eraill, am fod nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus wedi cael eu canslo a'i bod wedi gorfod cau ei siopau codi arian, gan arwain at ostyngiad sylweddol yn yr arian a godir.

Dywedodd Katie Macro, Cydgysylltydd Cymunedol yr Elusen, a wnaeth y cais am yr arian: "Mae hyn yn newyddion gwych – rydyn ni wrth ein bodd â haelioni Persimmon Homes.

“Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cyfle cyfartal i gael gofal critigol brys, lle bynnag y maent, pryd bynnag y mae ei angen arnynt. Rydym yn benderfynol o wireddu hynny.

“Rydym yn dibynnu ar eich haelioni anhygoel i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Mae angen cymorth arnom yn fwy nag erioed – ac mae Persimmon wedi camu i'r adwy."

Dywedodd Sharon Bouhali, Cyfarwyddwr Gwerthiannau Persimmon Homes Gorllewin Cymru: "Mae'n bleser mawr gennym allu gwneud y rhodd hon i Ambiwlans Awyr Cymru.

"Mae'r gwaith y mae'n ei wneud i helpu pobl ledled y wlad yn ardderchog. Yn amlwg, mae'r sefyllfa bresennol yn mynd i gael effaith ar ei chyllid, felly mae'n bleser gennym allu helpu yn y ffordd hon."

Mae cynllun Hyrwyddwyr Cymunedol Persimmon yn derbyn enwebiadau ond ar hyn o bryd, a hyd y gellir rhagweld, dim ond grwpiau sy'n helpu pobl dros 70 oed y bydd yn eu cefnogi.

Mae'r adeiladwr tai wedi penderfynu cefnogi grwpiau sy'n helpu pobl hŷn o ganlyniad i argyfwng COVID-19.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref – fel Persimmon Homes. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

 Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.

Ar hyn o bryd mae Persimmon yn gwerthu tai newydd arbennig ar safleoedd ledled De Cymru, gan gynnwys Arberth, Tre Ioan, Llanelli, Rhos a Phen-y-bont ar Ogwr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.persimmonhomes.com.