Mae'r archfarchnad Aldi wedi parhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy roi bwyd ac eitemau o'r cynigion cyfarwydd ‘Specialbuys’ i'w siopau elusen.

Er bod y siopau elusen wedi gorfod cau yn ystod y pandemig presennol, penderfynodd Ambiwlans Awyr Cymru drosglwyddo'r eitemau bwyd i fanciau bwyd yng Nghymru gyda chymorth gan Aldi.

Mae'r eitemau a roddwyd gan y bumed archfarchnad fwyaf yn y DU yn helpu i lenwi silffoedd y siopau elusen ledled Cymru.

Mae'r Elusen wedi cael amrywiaeth eang o eitemau o gynigion ‘Specialbuys’ Aldi, gan gynnwys pebyll, tŵls, ysgolion a dillad.

Weithiau, mae ganddynt amrywiaeth o eitemau bwyd hefyd, sydd fel arfer yn mynd i gaffi llwyddiannus yr Elusen – sef Caffi Hems – sydd wedi'i leoli ym Maes Awyr Caernarfon, i baratoi eitemau blasus i'w gweini.

Wrth siarad am y rhoddion hael a'r cyfraniadau at y banciau bwyd, dywedodd Rhys Richards, Rheolwr Warws a Chludiant Ambiwlans Awyr Cymru: “Y tro diwethaf, cawsom bedwar paled llawn. Roedd ein caffi ar gau a beth sy'n well na helpu pobl y mae angen cymorth arnynt fwyaf yn ystod y cyfnod anodd hwn.

‘Felly, ffoniais rai banciau bwyd lleol a chafodd y rhai cyntaf a ymatebodd gyfran o'r eitemau. Y banciau bwyd dan sylw oedd Banc Bwyd Abertawe a Banc Bwyd Cwmaman, ac roedd y ddau ohonynt yn falch ac yn ddiolchgar iawn bod pobl eraill yn fodlon cefnogi a gwneud gwahaniaeth.  Mae'n braf gallu cefnogi'r gymuned mewn ffordd wahanol. 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Aldi am ei chefnogaeth barhaus sy'n helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr 24/7.”

Mae'r cwmni Trailermech o Gaerdydd hefyd wedi bod yn gymorth mawr i Ambiwlans Awyr Cymru - mae'n cludo'r llwyth i Abertawe yn rhad ac am ddim.

Roedd Rhys yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Drwy gydol y cyfnod clo cyntaf, cawsom nifer mawr o eitemau yn rhodd a helpodd i godi arian hanfodol. Bu Dave o Trailermech yn gymorth mawr a gwnaeth gludo'r eitemau – ni allem fod wedi casglu'r eitemau heb ei help. Felly, diolch yn fawr iawn i Dave a'i dîm. Maent yn parhau i'n cefnogi ni.”

Mae Aldi wedi bod yn rhoi stoc i'r Elusen ers diwedd 2019 ac mae'r eitemau wedi cynhyrchu bron £160,000 yn ystod y ddwy flynedd hynny, er i'r siopau wynebu tri chyfnod clo. Dosbarthwyd eitemau i bob un o 12 o siopau'r Elusen ac fe'u gwerthwyd yn siop yr Elusen ar eBay hefyd.

Mewn pedwar mis mae'r eitemau o Aldi, sy'n cael eu gwerthu yn siop yr Elusen ar eBay wedi codi £1,137.

Mae siopau'r Elusen yn ffynhonnell incwm allweddol, sy'n cyfrannu'n sylweddol at gyrraedd y targed blynyddol o £8 miliwn.

Dywedodd Dan Oakenfull, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol ar gyfer Aldi: “Mae'n bwysicach nag erioed i gefnogi ein cymunedau lleol. Felly, rydym yn falch bod ein rhoddion o'r cynigion ‘Specialbuys’ wedi helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i ddarparu ei gwasanaethau hanfodol, a bod ein heitemau bwyd wedi mynd at y bobl hynny mewn angen yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol.”

I brynu eitemau o siop yr Elusen ar eBay, ewch i www.ebay.co.uk/str/walesairambulance