Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar fin ailagor ei siop yn Ninbych y Pysgod ar ôl ei adnewyddu yn ddiweddar.

Gwnaeth y siop boblogaidd, sydd wedi ei lleoli ar Upper Frog Street, gau ei drysau ychydig fisoedd yn ôl er mwyn cael edrychiad newydd. Bydd yn ailagor am 10am ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022.

Mae'r siop wedi'i phaentio drwyddi draw ac mae lloriau a gosodiadau newydd wedi'u gosod er mwyn creu mwy o le ar gyfer adrannau newydd gan gynnwys dillad dynion a dodrefn.

O ddydd Mawrth 12 Gorffennaf ymlaen, bydd y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9:30am a 4:30pm.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein boddau ailagor ein siop yn Ninbych y Pysgod o dan arweinyddiaeth ei rheolwr, Kirsty Gardiner. Bydd yr adnewyddiad yn ein galluogi i stocio hyd yn oed mwy o eitemau a chreu amgylchedd siopa newydd a braf i'n cefnogwyr.

“Yn bwysicaf oll, bydd y rhoddion a'r gwerthiannau o'r siop yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Yn ein hardal ni, yn Sir Benfro, gwnaethom ymateb i 119 o argyfyngau peryglu bywydau neu achosi anafiadau difrifol yn ystod 2021.”

Mae'r adnewyddiad yn rhan o gynllun manwerthu newydd yr Elusen, sydd wedi ei lywio gan adborth gan gyflogeion, cefnogwyr a gwirfoddolwyr a gasglwyd yn ystod adolygiad strategol diweddar.

Ychwanegodd Dr Barnes: “Drwy ein harolygon, dywedodd ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr wrthym mai cryfder ein helusen yw ei ffocws ar gymuned. Fel sefydliad a gafodd ei greu gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru, rydym wedi ymgorffori ein hunain o fewn cymunedau ledled y wlad. Mae ein siopau yn fwy na chanolfannau manwerthu, maent yn rhan o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau. Mae hyn yn rhywbeth mae pobl eisiau i ni barhau gydag a'i gryfhau, ac mae wedi dod yn ganolbwynt i'n strategaeth newydd.”

Nod cynllun manwerthu newydd Ambiwlans Awyr Cymru yw sicrhau cydbwysedd rhwng creu incwm ar gyfer ei gwasanaeth sy'n achub bywydau, gan gynyddu presenoldeb yr Elusen yn y gymuned ledled y wlad ar yr un pryd.

Ychwanegodd Dr Barnes: “Mae trigolion Dinbych y Pysgod wedi dangos eu cefnogaeth frwd i'n helusen ac rwy'n gobeithio y byddent yn mwynhau edrychiad newydd y siop.

 “Mae popeth a wnawn wedi ei wreiddio ar sicrhau y cawn ein gyrru gan bobl Cymru a'u hanghenion. Mae gennym ddyletswydd i wneud y defnydd gorau o'r nwyddau sy'n cael eu rhoi i ni gan ddefnyddio'r arian hwnnw i ddarparu'r gwasanaeth brys mwyaf effeithiol posib i'n gwlad.”

Daw adnewyddiad ac ailagoriad siop Dinbych y Pysgod ychydig o wythnosau ar ôl i'r Elusen gyhoeddi ei buddsoddiad mewn lleoliad manwerthu mawr yng Nghaernarfon.

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion o nwyddau ail-law gan y cyhoedd i lenwi'r silffoedd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn stocio ei siopau ag eitemau megis dodrefn, teganau, gemau, dillad, cerddoriaeth ac ornaments.

Am ragor o wybodaeth am siopau Ambiwlans Awyr Cymru a sut i roi eich nwyddau ail-law, ewch i walesairambulance.com/shops